Y 1930au ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi

Mwynwyr yr 1930au ym mwynglawdd aur Dolaucothi

Ar ôl methiant y mentrau mwyngloddio yn yr 20fed ganrif, nid oedd hi’n rhy hir cyn i brydles gloddio 60 mlynedd gael ei chymryd a dechreuodd cwmni newydd Roman Deep Ltd ddatblygu’r ardal gloddio’n helaeth, gan ddechrau gyda siafft Mitchell.

Golygai technoleg newydd, a oedd wedi datblygu ers cyfnod James Mitchell, fod modd creu ceuffyrdd hirach a siafftiau dyfnach nag erioed o’r blaen. Tynnwyd y dŵr oedd yn y siafft a ddechreuwyd gan Mitchell yn 1909 a thyllwyd yn ddyfnach i’r graig, yn raddol fach, nes i’r siafft gyrraedd dyfnder o 480 troedfedd (146m) - y siafft ddyfnaf ar y safle.

Modrwy ar gyfer priodas frenhinol 

Er gwaethaf yr uchelgais tu ôl i’r datblygiad, nid oedd llawer o aur yn cael ei gloddio yn nechrau’r 1930au. Roedd pen draw ei daith yn aml yn fwy nodedig. Yn ôl rhai o’r mwynwyr oedd yn gweithio yn y safle ar y pryd, cyflenwodd Dolaucothi ychydig o aur ar gyfer modrwy ar gyfer y briodas frenhinol rhwng y Tywysog George, Dug Caint, a’r Dywysoges Marina o Roeg a Denmarc.

Roedd uchelgais o’r fath yn gofyn am arian sylweddol. Cafodd y cwmni cloddio ei ail-enwi ddwywaith a chafodd y brydles ei throsglwyddo er mwyn codi arian ychwanegol i dalu am ddatblygiad parhaus y safle.

Ehangu cynhyrchiad

Pan newidiodd y cwmni i British Goldfields (No. 1) Ltd yn 1937, cynyddodd y gweithlu’n sylweddol nes bod rhwng 150 a 200 yn gweithio yma. Yn eu plith roedd nifer o fechgyn ifanc o ffermydd lleol.

Oherwydd hyn cynyddodd cynhyrchiad aur i raddfa oedd gyda’r uchaf a welwyd erioed yn Nolaucothi. Ar gyfartaledd, cloddiwyd cannoedd o dunelli o fwyn bob wythnos gan British Goldfields o ddechrau ei gyfnod yn gweithredu nes yn hwyr yn 1938. Ym mis Medi’r flwyddyn honno llwyddwyd creu dros 1,000 owns (28kg) o aur allan o rhyw 4,000 tunnell o fwyn.

Ochr yn ochr â chloddio’r mwyn, adeiladwyd melin fawr ar gyfer ei drawsnewid yn sylwedd sylffid; roedd hyn yn ei gwneud hi’n haws i’w gludo tramor ar gyfer ei goethi.

Adeiladu’r felin

Roedd disgwyl y byddai’r felin yn cynhyrchu gwastraff a allai lygru’r Afon Cothi gerllaw, felly cafodd ei hadeiladu beth bellter i ffwrdd. Ystyriaeth arall oedd nad oedd perchnogion Ystâd Dolaucothi, y teulu Johnes, eisiau gweld y melinau prosesu mawr o’r ffenestri yn Nhŷ Dolaucothi!

O’r diwedd adeiladwyd y felin ar fryn oedd 250 troedfedd yn uwch na’r iard. Roedd rhaid creu  tramffordd ar oleddf, ar dipyn o gost, er mwyn cario’r mwyn i’w grynhoi. Gellir gweld sylfeini adeiladau’r felin hyd heddiw wrth gerdded ar Lwybr Ffordd y Mwynwyr.

Diffyg buddsoddiad

Ychwanegodd cost y melinau a’r dramffordd at yr anawsterau a oedd eisoes wedi llethu’r gwaith.  O gamau cynllunio cynnar y gweithfeydd, roedd arian yn cael ei wastraffu drwy beidio â chywiro problemau neu drwy adael pethau nes ei bod hi’n rhy hwyr. Roedd y gwythiennau aur oedd eisoes yn gul yn mynd yn brin ac ni chafodd digon o adnoddau eu buddsoddi i geisio darganfod mwy.

Felly, mis yn unig wedi i gynhyrchiad aur gyrraedd ei anterth, daeth y gwaith cloddio i ben, ym mis Hydref 1938. O fewn dwy flynedd cliriwyd yr holl adeiladau a gadawyd i’r siafftiau cloddio lenwi gyda dŵr. Ni fyddai cloddio yn Nolaucothi fyth yn ailddechrau.