Llwybrau cerdded gorau’r gwanwyn yng Nghymru

Cymrwch olwg ar fyd natur yn ail-ddeffro y gwanwyn hwn wrth i chi fynd ar ysgafndroed drwy goedwigoedd o glychau’r gog, gwelwch greaduriaid newydd eu geni yn y caeau, gwrandewch ar gân yr adar a chwilotwch am arlleg gwyllt ar ein teithiau cerdded gwanwynol gorau yng Nghymru.

Wild garlic growing at Erddig in Wrexham

Erddig, Wrecsam 

Mae coedlannau Erddig yn llawn dop o lwybrau cerdded sy’n cordeddu o gwmpas coed ffawydd a deri mawreddog. Ym mis Ebrill a Mai dilynwch lwybr y Goedwig Fawr a darganfod llwybrau yn drwm dan blanhigion garlleg gwyllt ar hyd eu ymylon – un o uchafbwyntiau y tymor.

Yr olygfa o’r llyn

Tŷ Tredegar, Casnewydd 

Mwynhewch daith gylchol fer o gwmpas y llyn, rhwng y coedlannau a thrwy lawntiau gosgeiddig Tŷ Tredegar y gwanwyn hwn. Gwelwch fyd natur yn ail-ddeffro wrth i’r adar heidio nôl i’r llyn i ymgartrefu am y tymor. Cadwch lygad ar agor am elyrch, cwtieir a chrychyddion ymhlith llu o greaduriaid tanddwr llithrig.

A woodland filled with bluebells in the Spring

Castell y Waun, Wrecsam 

Gallwch weld arwyddion y gwanwyn ym mhob man o gwmpas stad Castell y Waun. Ar y daith gylchol hon drwy’r coed fe welwch ŵyn bach newydd eu geni yn y caeau, rhodfeydd o gennin Pedr yn ymestyn draw o’r castell a’r adar yn dychwelyd i’w blychau nythu. Ond diwedd Mai yw’r amser am y finale gwanwynol pan fydd y goedwig yn garped o glychau’r gog.

Porthdinllaen basking in spring sunshine

Porthdinllaen, Llŷn 

Nid dim ond mewn gerddi a pharciau mae blodau’r gwanwyn yn tyfu; maen nhw yn pefrio ar hyd yr arfordir ar draws Cymru. Mae’r eithin tanbaid melyn yn aml yn ei flodau trwy fisoedd y gwanwyn ac yn lloches berffaith i adar sy’n nythu. Wrth i’r tymor gynhesu mae digonedd o flodau arfordirol i’w gweld, o’r gwanwyn hyd yr haf. Mae Porthdinllaen yn fan perffaith ar gyfer mynd am dro yn y gwanwyn, a mwynhau diod bach yn Nhŷ Coch.

Oen bach yn Llanerchaeron, Ceredigion

Llanerchaeron, Ceredigion  

Dilynwch y llwybr o gwmpas y llyn lle gallwch weld amrywiaeth o fywyd gwyllt a gweld clychau glas wedi eu taenu o gwmpas y glannau. Anelwch am y gerddi i weld borderi yn llawn lliw a blodau’r pren afal yn y Berllan. Ond uchafbwynt y tymor yw dyfodiad yr ŵyn bach, y perchyll a’r cywion bach sydd i’w gweld yn yr adeiladau allan a’r caeau o gwmpas trwy gydol y gwanwyn.

Wild garlic at Coed Ganllwyd in South Snowdonia

Ganllwyd, De Eryri 

Dilynwch y llwybr ar hyd glan yr afon, heibio i raeadr mawreddog Rhaeadr Ddu a thrwy goedwig dderi hynafol Ganllwyd. Yn y gwanwyn, mae dail ir gwyrdd y deri yn gwrthgyferbynnu ag adlewyrchiad tywyll y rhaeadr. Wrth i fis Ebrill agosáu mae’r awel yn llawn persawr a’r tir yn garped o flodau bychain y garlleg gwyllt. I orffen y tymor, daw’r clychau glas i lenwi’r tir o dan nenfwd y deri tal.

Golygfa o ddim ond rhai o’r cennin Pedr melyn llachar a’r Gorthwr yng Nghastell Penrhyn

Castell Penrhyn, Bangor 

Cyfunwch seibiant am ginio efo tro drwy’r ardd a’r tir yng Nghastell Penrhyn. Yn union o flaen y castell mae gweirglodd hardd o flodau gwyllt; y cennin Pedr ddaw gynta’, yna llygad y dydd mawr ac erwain. Peidiwch anghofio galw heibio y llwybr Rhododendron oherwydd mae’r azalea a’r rhododendron yn wledd o liw a phersawr.

White Park Cattle and her calves returning to the field at Dinefwr

Dinefwr, Sir Gâr 

Dinefwr yw’r unig barcdir sydd wedi ei ddynodi yn Warchodfa Natur Genedlaethol yng Nghymru ac mae’n orlawn o fywyd gwyllt y gwanwyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio Crib Nythle’r Brain i weld sioe enwog clychau glas Dinefwr a chadwch lygad ar agor am hyddod brith yn y parcdir. Ond uchafbwynt Dinefwr bob gwanwyn yw’r lloi bach yn cael eu geni a’r Gwartheg Parc Gwynion yn dod nol i’r caeau wedi misoedd hir y gaeaf.

Bluebells at Colby Woodland Garden

Sir Benfro 

Darganfyddwch y gorau o Sir Benfro gyda phum llwybr cerdded rhagorol. Cadwch lygad allan am ddyfrgwn yn Ystagbwll, gwyliwch yr adar yn hedfan ar Draeth Marloes, rhyfeddwch at y golygfeydd arfordirol yn Lis Castell (neu Lydstep) a Threginnis, a mwynhewch flanced las o glychau’r gog yn Abermawr.