Lapiwch yn gynnes ac allan â chi ar deithiau cerdded gaeafol iachus yn Sir Benfro. Dyma bump o’n hoff rai, o deithiau i’r teulu i lwybrau braf i gŵn a llwybrau crwydro.
Dyma daith i glirio’r pen, sef taith gylch hardd gyda golygfeydd ysblennydd ar hyd yr arfordir, bywyd gwyllt a hanes. Mae’r machlud yn y Sinc yn drawiadol tu hwnt yn ystod misoedd y gaeaf.
Ewch draw i Benrhyn Marloes a dianc rhag berw bywyd ar daith llesol o gwmpas y Parc Ceirw hanesyddol. Nid oes ceirw i’w gweld, ond mae digon o olygfeydd gwych o’r môr a’r ynysoedd gerllaw yn aros amdanoch.
Plannwch eich traed ar ddaear ysgythrog Penrhyn Dewi a chrwydro taith gylch o gwmpas y pentir arfordirol hyfryd hwn a’i henebion o oes y cynfyd. Dafliad carreg o ddinas leiaf Cymru, fe fyddwch yn teimlo ymhell o sŵn y byd.
Cadwch y plant yn brysur ar daith deuluol anturus i’r gwyllt. Mae golygfeydd glan y môr gwych i’w mwynhau ar y daith gylch hawdd hon, a daeareg i’ch syfrdanu.