Y 10 gorau o deithiau cerdded chwedlonol Cymru

Cerddwch yn ôl traed cymeriadau chwedlau Cymru'r gaeaf hwn. Does dim prinder o chwedlau yng Nghymru - o ddreigiau mytholegol yn poeri tân i arwyr ac arwresau o gig a gwaed go iawn o’n hanes ni. Dewch i ddarganfod treftadaeth gyfoethog Cymru ar droed ar un o’n teithiau cerdded, a dathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru gyda ni.

Carreg goffa Gelert ym Meddgelert

Beddgelert, Eryri 

Dewch i ddysgu am stori drasig y Tywysog Llywelyn o’r 13eg ganrif a’i gi hela ffyddlon, Gelert, a roddodd ei enw i bentref Beddgelert. Mae’r daith yn eich arwain ar hyd llwybr gwastad o ganol y pentref ar hyd glannau’r Afon Glaslyn i safle bedd Gelert. Daeth y daith hon yn boblogaidd ymhlith ysgrifenwyr teithiau cynnar fel Thomas Pennant ac artistiaid fel JMW Turner.

Llyn Idwal a’r Garn ag eira ar ei chopa
Llwybr cerdded

Cwm Idwal, Eryri 

Dewch i ddarganfod gorffennol Cwm Idwal, a hanes tywysog o’r 12fed ganrif a’i fab, a’r chwedl am gawr o’r enw Idwal oedd yn byw yno. Ewch am dro drwy un o’r golygfeydd mynyddig mwyaf dramatig yn y DU a’r Warchodfa Natur Genedlaethol hynaf yng Nghymru. Ar eich ffordd yn ôl i lawr y mynydd, peidiwch ag anghofio edrych ar yr olygfa fendigedig o Lyn Ogwen, sy’n swatio o dan fynydd dramatig Tryfan. Yn y dyfroedd hyn, meddai rhai, mae cleddyf y Brenin Arthur yn gorffwys.

Llyn Cwm Llwch yn y wawr yn y gaeaf, Bannau Brycheiniog, Powys
Llwybr cerdded

Cwm Llwch, Bannau Brycheiniog 

Yn gorwedd o dan gopaon uchaf Bannau Brycheiniog yn Ne Cymru, mae dyfroedd disglair Llyn Cwm Llwch sydd wedi cydio yn nychymyg llawer o bobl dros y blynyddoedd. Mae stori am ynys hud, anweledig i’w darganfod yma, sy’n gartref i dylwyth teg, a hefyd stori drasig Tommy Jones, y bachgen bach aeth ar goll ym Mannau Brycheiniog. Y daith gerdded hon hefyd yw’r llwybr anodd i gopa mynydd uchaf de Prydain, Pen y Fan.

Brwydr y dreigiau gwyn a coch

Dinas Emrys, Eryri 

Gwyliwch! Mae ‘na ddreigiau yma! Dysgwch am stori Dinas Emrys, mynydd fu’n gartref i’r ddraig goch ar faner Cymru. Cerddwch i’r copa i weld golygfeydd godidog o gefn gwlad, y gwartheg duon Cymreig sy’n frith dros y bryniau a’r rhaeadrau sy’n arllwys o uchder. Cofiwch droedio’n ofalus. Dydych chi ddim am ddeffro’r ddraig.

Dinas Oleu, Abermaw, Gwynedd
Llwybr cerdded

Dinas Oleu, Abermaw 

Archwiliwch y darn cyntaf o dir i gael ei gyflwyno’n rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895 gan Mrs Fanny Talbot. Mae’r daith yn mynd â chi o ganol tref Y Bermo drwy strydoedd serth, cul a throellog yr Hen Dref ac i fyny i ben y bryn o eithin, sy’n cael ei adnabod fel Dinas Oleu. Wrth i chi gerdded at y copa, mae golygfeydd dramatig i’w gweld dros aber yr afon Mawddach a Bae Ceredigion, ac yn ymestyn draw tua Phen Llyn.

Gwartheg Gwynion y Parc
Llwybr cerdded

Dinefwr, Sir Gaerfyrddin 

Mae’r math prin o Wartheg Gwynion y Parc sydd yn Ninefwr yn ddolen gyswllt fyw gyda’n gorffennol pell, ac mae cofnodion ar gael ohonynt yn dyddio nôl i’r flwyddyn 920 pan gyfeirir atynt yng nghyfreithiau Hywel Dda, y gŵr fu’n gyfrifol am gyfundrefnu cyfreithiau Cymru. Mae’r daith gerdded 3-milltir hon yn mynd heibio i rai o’r mannau gorau ar yr ystâd i weld bywyd gwyllt, i’r llyn chwedlonol o adlewyrchiadau, a hefyd i weddillion Castell Dinefwr, prif ddinas y Deheubarth yng nghyfnod yr Arglwydd Rhys, sydd o dan ofal Cadw erbyn hyn.

Looking out from the cave behind Henrhyd Falls, Powys, Wales.
Llwybr cerdded

Rhaeadr Henrhyd, Bannau Brycheiniog 

Mae Cymru’n gartref i lawer o gynefinoedd i ystlumod prin, ond does unman yn brinnach nag yn fwy adnabyddus na chartref Batman ei hun. Pan ddaeth y ffilm Hollywood, The Dark Knight Rises, i sgriniau ein sinemâu, mae’n bosibl bod ogof yr arwr ystlumaidd yn edrych yn gyfarwydd i lawer un yng Nghymru. Y rheswm oedd bod Rhaeadr Henrhyd ym Mannau Brycheiniog (Rhaeadr uchaf De Cymru, sy’n 88 troedfedd o uchder) wedi ei defnyddio fel lleoliad ffilmio ar gyfer y Bat Cave yn y ffilm ddrudfawr hon gyda Christian Bale yn serennu ynddi.

Golygfa o Ysgyryd Fawr o gopa mynydd Pen-y-fâl
Llwybr cerdded

Skirrid Fawr, Sir Fynwy 

Mae mynydd Ysgyryd Fawr hefyd yn cael ei ‘nabod dan yr enw Y Mynydd Sanctaidd neu’r Bryn Cysegredig. Disgrifiad o siâp y bryn yw’r gair ‘ysgyryd’, sy’n golygu garw a phigog fel petai rhywbeth wedi cael ei falu’n deilchion. Yn ôl y chwedl, roedd rhan o’r mynydd wedi torri i ffwrdd ar yr union eiliad croeshoeliwyd yr Iesu. Bydd y daith gerdded egnïol hon yn eich arwain drwy goedwig allan i fan agored ar ochr y mynydd, cyn dringo’r llwybr serth i’r copa lle gallwch weld golygfeydd gwych o’r wlad o’ch cwmpas.

Edrych draw am Garn Llidi ar Benmaen Dewi o Graig Pen Beri
Llwybr cerdded

Penmaen Dewi, Sir Benfro 

Dewch i archwilio penrhyn arfordirol mwyaf ysblennydd Sir Benfro, sydd ond ychydig filltiroedd o ddinas leiaf Cymru, Tyddewi. Gydag arfordir lliwgar sydd â llwyth o hanes yn perthyn iddo, mae’r penrhyn pert yma wedi bod yn ferw o brysurdeb diwylliannol dros filoedd o flynyddoedd. Dysgwch am linach yr ardal, o fywyd y Celtiaid i fywyd nawddsant Cymru.

Golygfa o Ben Pyrod, Gŵyr
Llwybr cerdded

Worm's Head, Gŵyr 

Mae’r enw 'Worm's Head' (yr enw Saesneg am Ben Pyrod) yn tarddu o’r gair Llychlynnaidd ‘Wurm’ sy’n golygu sarff neu ddraig. Gallwch ‘orchfygu’r’ ddraig hon y drwy fynd i’w cherdded. Mae Pen Pyrod yn cael ei hynysu gan y llanw a dim ond am ddwy hanner awr cyn ac wedi i’r llanw fod ar drai y gellir cyrraedd yr ynys. Mae amserau’r llanw ar gael yn adeilad gwylwyr y glannau ac mae cyngor ar gael hefyd am yr amser gorau i groesi. Cymerwch ofal, fyddwch chi ddim am fynd yn sownd ar ben y ddraig! Gallwch weld y golygfeydd bendigedig o Fae Rhosili ar y daith, sef un o draethau gorau’r byd.