Diwrnod cyntaf taith gerdded Her Fawr Gŵyr
Dyma ein canllaw ni i ddiwrnod cyntaf Her Fawr Gŵyr, sef taith gerdded dau-ddiwrnod a gwblhawyd gan y gohebydd teithio, Mark Rowe.

Dechrau:
Crofty, cyfeirnod grid: SS529951
1
Gan ddechrau o ganol Crofty, ewch tua’r gorllewin ar hyd llwybr yr arfordir, heibio i Wernffrwd ar y B4295 i Lanrhidian. Yn y pentref ewch i’r dde wrth gyffordd, yna’n syth ymlaen, yna i’r chwith, i fyny a heibio ochr dde’r eglwys at y goedwig.
2
Dilynwch y llwybrau drwy’r coed a’r caeau sy’n arwain i Landimôr, troi i’r dde ar hyd y lôn a chadw at y chwith i ail ymuno eto gyda llwybr yr arfordir.
Landimôr
Adeiladwyd y morglawdd yn Landimôr ar diwedd y Canol Oesoedd er mwyn draenio’r tir sydd ar ochr fewndirol y clawdd. Mae golygfa wych yma o’r gors, yn enwedig ar lanw uchel pan nad oes unrhyw beth i’w weld o’ch blaen ond dŵr!
3
Yn union cyn cyrraedd North Hill Tor, cymerwch y rhiw serth sy’n rhedeg i fyny drwy’r coed, heibio fferm North Hill a thrwy Cheriton. Ar ôl y Britannia Inn, trowch i’r dde lawr y llwybr islaw Coed Cwm Ivy i’r Groose.
4
Ar ddiwedd y Groose, trowch i’r dde a dilyn y llwybr drwy’r tywod a thri phatshyn trwchus o goed conwydd i Drwyn Whiteford.
Ynysoedd o Goed
Byddwch yn pasio ynysoedd o goed wrth wneud eich ffordd allan at Drwyn Whiteford
5
Trowch tua’r de a cherdded ar draws y traeth i Dwyni Broughton. Dilynwch y llwybr drwy Dwyni Delvid i’r safle gwersylla a dilyn arwyddion llwybr yr arfordir i’r Pwll Glas, gan gerdded lawr drwy Dwyni Langynydd at y traeth. Cerddwch i gyfeiriad y de am 1.5 milltir (2.4km). Chwiliwch am gyfeirbwynt yn pwyntio ar draws y twyni, fydd yn eich arwain i mewn i faes parcio wrth y maes carafanau.
6
Cerddwch i fyny i Hillend a’r ffordd wrth fynedfa’r maes carafanau. Cymerwch y llwybr i ben cefnen Rhosili. Cadwch at y grib, gan ddod i lawr yn y pen draw i bentref Rhosili.
Cefnen Rhosili
Enw’r siambrau claddu o Oes y Cerrig ar gefnen Rhosili yw Sweynes Howes. Adeiladwyd nhw tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl.
Diwedd:
Rhosili, cyfeirnod grid : SS416880