Swyn Sitrws
20 Mehefin – 19 Gorffennaf
Dwedwch helo i’r haf a phrofi gwledd i’r synhwyrau gyda’n Swyn Sitrws.
Cewch gip ar gyfoeth y teulu Morgan a’u diddordeb mewn casglu’r ecsotig a’r anarferol. Bydd y gerddi’n fôr o felyn ac oren a bydd Ystafell De’r Bragdy’n ffrwydrad o sitrws.
Gwyliau’r haf
Gorffennaf - Awst
Treuliwch yr haf ynghanol prydferthwch Tŷ a Pharc Tredegar.
Mwynhewch y diwrnodau cynnes gyda gweithgareddau i’r teulu cyfan, o weithdai crefft botanegol a digwyddiadau awyr agored yn yr heulwen i sipio lemonêd oer yn Ystafelloedd Te’r Bragdy.
Ac nid dyna’r cwbl! Cadwch eich llygaid ar agor am ragor yn fuan...