Y WAW ffactor!
“Yr unig air sy’n dod i’r meddwl ar ôl cyrraedd y top yw ‘WAW’. Mae yna olygfa newydd a thrawiadol o barcdir Tŷ Tredegar a thu hwnt”, meddai Susan.
Ar ddiwrnod braf, mae’r olygfa o Rodfa’r Dderwen yn ymestyn dros y bryn i Fasaleg yn anhygoel – fe anghofiwch chi bopeth am bresenoldeb yr M4. Mae hefyd wedi bod yn wych gweld yr adeiladwyr yn arfer eu crefft, a pha mor gyflym mae’r gwaith wedi symud yn ei flaen.
“Roedd yr adeiladwyr bob amser yn hapus i’n helpu i ateb ambell gwestiwn caled ar bynciau technegol.
“Rydyn ni wedi croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd – UDA, Canada, Awstralia, Siapan, Ffrainc a Chasnewydd hyd yn oed. Gwnaeth pawb fwynhau’n fawr, a dangos hyn drwy gymryd rhan yn ein raffl codi arian.
“I’r tîm o wirfoddolwyr, mae’n amlwg ein bod ni i gyd wedi mwynhau’r profiad newydd hwn mas draw, ac wedi gwerthfawrogi mwynhad yr ymwelwyr hefyd. Mae’n siom bod popeth wedi dod i ben mor fuan.”