Mae’r tywydd twymach yn golygu bod y gerddi’n llawn bywyd gwyllt. Dewch i’w ddarganfod! Rydym wedi dod â phopeth sydd ei angen ar anturiaethwyr ifanc ynghyd er mwyn iddynt allu ddysgu am gyfrinachau’r isdyfiant.
Taclwch y tasgau ar eich liwt eich hun wrth i chi anturio yn y gerddi ffurfiol a’r parcdir.
Gardd y Gedrwydden yw’r lle perffaith i ddefnyddio eich taflen sbotio adar, tra bod glaswellt hir Gardd y Berllan yn sisial gydag adenydd y pili-pala. Cofiwch edrych o dan y boncyffion a’r cerrig mawr yn yr Ardd Ochr oherwydd dyma’r cuddfannau delfrydol i’r holl bryfed bach.