


Mae Tŷ Tredegar yn lle delfrydol i blant gael mwynhau’r awyr agored. Mae’r parcdir eang yn llawn mannau gwyllt i fynd ar antur ac mae digonedd o fywyd gwyllt i’w ddarganfod. Gyda chymaint o le yn yr awyr agored mae Philip Wilson, ein Swyddog Cysylltu â’r Gymuned, yn sôn sut mae’r Clwb Ceidwaid Ifanc yn helpu plant lleol ail-gysylltu gyda byd natur.
Sefydlwyd y Clwb Ceidwaid Ifanc yn 2013 ac yn ystod ein blwyddyn gyntaf daeth mwy na 500 o blant i fwynhau cymryd rhan mewn pob math o ddigwyddiadau cyffrous a hwyliog.
Mae’r Clwb Ceidwaid Ifanc yn cael ei gynnal mewn partneriaeth gyda rhai o’n gwirfoddolwyr teuluol. Mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau i blant. Mae’r rhaglen haf yn cynnwys gwneud cuddfan, chwilio am adar, creu cerddoriaeth yn yr awyr agored a darganfod creaduriaid y pwll dŵr. Yn y gaeaf ry’n ni wedi cynnal sesiynau gwylio’r sêr, cystadleuaeth chwarae concyrs, adeiladu rafft a gwneud coron o ddail, ymysg pethau eraill.
Bob tro bydd plentyn yn dod i un o’r sesiynau bydd yn derbyn stamp, ac mae chwe stamp yn ennill gwobr a thocyn mynediad am ddim i’r tŷ.
Pam sefydlu’r Clwb Ceidwaid Ifanc?
Mae’r Ceidwaid Ifanc yn ein helpu ni i gysylltu gyda’n cymdogion agosaf ac roedden ni’n awyddus i annog teuluoedd o’r ardal i ddod i ddefnyddio ein parc gwych. Drwy ddangos i’r plant sut y gallan nhw ddefnyddio’r parc mewn ffyrdd hwyliog, ry’n ni’n gobeithio y byddan nhw’n creu cysylltiad gyda Thŷ Tredegar ac yn dod i fwynhau’r cyfan sydd ar gael yma.
Ydy’r plant yn mwynhau’r Clwb Ceidwaid Ifanc?
Mae’r ymateb dros y blynyddoedd wedi bod yn aruthrol o gadarnhaol. Mae’r plant yn cael cyfle i wneud ffrindiau newydd ac i fwynhau profiadau newydd.
Pryd allwn ni ymuno yn yr hwyl?
Mae’r Clwb Ceidwaid Ifanc yn rhedeg yn ystod tymhorau ysgol y gwanwyn a’r hydref. Edrychwch ar adran ddigwyddiadau ein gwefan er mwyn cael manylion am y dyddiadau.