Crwydro’r parc yn Nhŷ Tredegar

Helpwch ni i ofalu am y man arbennig hwn
- Dim pysgota yn y llyn. Rydym ni wedi ymrwymo i warchod ecoleg y llyn a’r anifeiliaid niferus sydd wedi gwneud eu cartref ynddo. Mae abwyd, bachau a llinynnau pysgota sy’n cael ei gadael ar ôl yn berygl go iawn i’n bywyd gwyllt.
- Dod â phicnic yn unig, plîs! Mae cynnau barbeciw yn gwneud difrod sylweddol i’n tir gwair a’n byrddau picnic, a hefyd yn creu perygl o dân. Gofynnwn i’n holl ddefnyddwyr i beidio dod â barbeciw gyda nhw i’r parc. Dewis arall yw dod â phicnic, ac rydym ni’n eich annog i wneud hyn gan fod digonedd o leoliadau da i fwynhau bwyta yn yr awyr agored. Mae bwyd a diod hefyd ar gael o’r caban yn y parc.
- Parcio yn y maes parcio. Rydym ni’n darparu digon o le parcio ar gyfer ymwelwyr i’r tŷ, y gerddi a’r parc, wrth y fynedfa i’r safle. Gofynnwn i ddefnyddwyr y parc i ddefnyddio’r lleoedd parcio hyn ac i beidio â pharcio yn unman arall ar y safle.
Aros yn ddiogel...
I wneud y mwyaf o'ch ymweliad, byddem yn awgrymu eich bod y darllen yr isod fel y gallwch fwynhau diwrnod di-bryder:
- Beth bynnag y tywydd, efallai y bydd rhai o’r llwybrau yn fwdlyd ac anwastad pan fyddwch chi'n crwydro trwy'r parc. Sicrhewch eich bod yn gwisgo esgidiau priodol ar gyfer eich anturiaethau.
- Mae croeso i chi fwynhau'r coetir, ond byddwch yn ymwybodol bod y ddaear yn anwastad ac efallai bod gwreiddiau coed yn amlwg.
- Yn ystod misoedd yr haf, rydym yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu trwy adael i'r glaswellt dyfu'n hir mewn rhai ardaloedd i ddarparu cynefinoedd naturiol. Efallai y bydd rhai o'r trychfilod bach yn brathu neu'n pigo, felly cymerwch ofal.
- Rydym yn gwybod bod plant bach wrth eu boddau yn archwilio! Felly goruchwyliwch eich plant bob amser, yn enwedig yn yr ardal chwarae a'r ardal chwarae naturiol. Mae rhai plant yn fwy anturus nag eraill, a dim ond eich bod chi'n gwybod galluoedd a chyfyngiadau eich plant eich hun a'r rhai sydd yn eich gofal. Os gwelwch yn dda ymgyfarwyddo â'r ardal chwarae naturiol a chadwch lygad arnyn nhw wrth chwarae.
- Mae sawl ardal o ddŵr yn ein parcdir. Er y gallant edrych yn ddeniadol, maent hefyd yn beryglus felly cymerwch ofal bob amser. Ni chaniateir nofio yn ein llynnoedd na’r pyllau dwr.
- Gall tywydd gwael wneud i ddarnau disgyn o goed ac adeiladau, felly meddyliwch am yr hyn sydd uwch eich pennau ac ystyriwch y risgiau pan fyddwch chi allan am dro.
- Yn ystod gwyntoedd cryfion neu dywydd garw byddwn yn cau'r parcdir i gadw pawb yn ddiogel. Bydd arwyddion o gwmpas y parc ac ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol. Cadwch at yr arwyddion a pheidiwch â mynd i mewn i'r parc pan fydd ar gau er eich diogelwch.