Teg dweud bod ein plasty wedi dioddef ei siâr o ddyddiau du, ond mae wedi mwynhau oesau aur hefyd. O 'le teg wedi'i wneud o garreg' i'r plasty mawreddog o frics coch sydd i'w weld yma heddiw... y tu mewn a'r tu allan, mae gan hyd yn oed y waliau straeon i'w dweud.
Mae'r plasty yn Nhŷ Tredegar wedi gweld llawer o newidiadau ar hyd ei hanes. Mae tŷ wedi bod ar y safle ers y canol oesoedd, ac mae cofnodion am y tŷ yn dyddio o'r cyfnod Tuduraidd... ond maen nhw'n disgrifio plasty tra wahanol i'r un a welwch heddiw.
Ewch am dro drwy Ardd y Gedrwydden ac fe welwch dystiolaeth o'r ddwy oes mewn brics a mortar... ond nid dim ond y tu allan sy'n adrodd hanesion am newid. Camwch i mewn i'r tŷ i weld cyfnodau mwyaf dylanwadol ein hanes yn fyw o flaen eich llygaid.
Ry’n ni’n falch iawn o’n treftadaeth liwgar sy’n annog pobl i deimlo’n hollol rydd wrth ymweld. Felly pan ddewch chi i Dŷ Tredegar peidiwch disgwyl gorfod sibrwd yn y coridorau neu rythu ar fannau sydd wedi eu cau i ffwrdd gan raffau. Yn lle hynny cewch daflu’ch hunan i mewn i’n hanes a rhannu’n straeon mewn ffyrdd hwyliog.
Ystafelloedd yr Ail Ganrif ar Bymtheg
- Cewch eich hudo gan sglein yr Ystafell Eurwaith a dilyn yn ôl troed teulu Morgan yn yr ystafell adloniant wych hon.
- Ymwelwch â'r Parlwr Newydd a chymryd eich tro'n chwarae gemau, yn creu eich straeon eich hun gyda phypedau cysgod ac yn gwisgo fel un o'r Morganiaid.
- Rhyfeddwch at gerfiadau gwych y paneli derw yn yr Ystafell Frown a chadwch lygad allan am nadroedd, llewod, griffwns a wynebau rhyfedd ond rhyfeddol.
Byd y Gweision
- Sefwch o dan nenfydau uchel ein Cegin Fawr lle byddai gwleddoedd gogoneddus wedi cael eu paratoi a helpwch i goginio rhai o'r danteithion y byddai'r teulu Morgan wedi'u mwynhau.
Ystafelloedd gwely'r 1930au
- Dewch i brofi hynodrwydd Evan yn Ystafell y Brenin, a chadwch lygad allan am Somerset, ei gangarŵ sy’n bocsio, a Blue Boy, y parot oedd ond yn gwybod geiriau drwg.
- Cymerwch gam i'r cyfeiriad arall i ymweld â'r Siambr Orau - a agorwyd i ymwelwyr unwaith eto ar ddechrau 2015. Dyma'r ystafell â'r golygfeydd gorau o'r ystâd gyfan a lle rydyn ni'n dechrau adrodd stori Tŷ Tredegar fel y mae heddiw... a'r holl waith sydd ei angen i'w gadw ar ei draed.