Yn dilyn proses recriwtio drylwyr penodwyd cwmni adeiladu Ellis and Co., sy’n arbenigo mewn adeiladau treftadaeth, fel prif gontractwyr ar gyfer y gwaith trwsio’r to ym mhrosiect Codi’r Caead. Mae gan y tîm, dan arweiniad Rheolwr y Safle, George Lansdown, dros 30 mlynedd o brofiad o waith cadwraeth ar adeiladau, ac yn glynu at bolisi o ddefnyddio technegau traddodiadol, ac o beidio ag ymyrryd fwy nag sydd raid yn yr adeilad.
Mae’r cwmni teuluol hwn wedi gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol nifer o weithiau, a chyn hyn wedi helpu gyda gwaith cadwraeth ar Avebury Manor, Clevedon Court a Stourhead, ymhlith nifer o fannau eraill.