Bydd yn y stablau yn edrych yn ofalus ar ei restr o blant drwg a phlantos bach da, yn lapio’r anrhegion ac yn rhoi saib i Rwdolff a’r holl geirw eraill cyn eu taith fawr. Tra eu bod nhw’n mwynhau hedfan yn y nen, bydd Siôn Corn yn edrych ar ei fapiau i gynllunio’r llwybr gorau o amgylch yr ardal leol i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr.
Y newyddion gorau yw ei fod wedi addo dod o hyd i ychydig o amser yn ei ddyddiadur prysur i gyfarch plant Casnewydd a Chaerdydd.