Y tymor hwn, byddwn yn gwneud y mwyaf o newidiadau byd natur wrth i’r diwrnodau fyrhau, gan ddarganfod ein hochr greadigol yn ein gweithdai cerfio pwmpenni traddodiadol a dysgu hanesion hynotaf Tŷ Tredegar ar ein llwybr chwedlau...
Gwybodaeth gyffredinol
Ry’n ni wedi trefnu ambell i drît arbennig (ond dim triciau!) yn Nhŷ Tredegar y tymor hwn. Dyma beth gallwch chi ei ddisgwyl wrth ymweld â ni...
- Tŷ hanesyddol a gerddi ffurfiol cain â chanrifoedd o hanesion i’w hadrodd. Gallwch weld ein prisiau a’n horiau agor ar ein hafan.
- Parcdir enfawr sy’n wledd i’r llygaid wrth i’r tymhorau newid. Gallwch fynd i’r parcdir am ddim - mae ar agor bob dydd o’r wawr tan iddi nosi.
- Caffi clyd y Bragdy, sy’n cynnig dewis o dameidiau ysgafn, cacennau a danteithion yn ogystal â diodydd poeth ac oer. Perffaith i ymlacio. Mae’r caffi ar agor o 10am - 5pm bob dydd.
- Ein siop lyfrau ail-law, sy’n swatio yng nghornel fferm y plas. Prynwch lyfr a mwynhewch noson dawel o ddarllen ar y soffa. Mae’r siop lyfrau’n cael ei rhedeg gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr, felly ni allwn addo y bydd ar agor bob dydd.
*Mae ein horiau agor yn newid ym mis Hydref. Cliciwch yma am fanylion llawn.
Darllenwch yr erthygl ‘beth i’w ddisgwyl’ i ddysgu am y newidiadau ry’n ni wedi’u gwneud i gadw pawb yn ddiogel.
Llwybr synhwyrau’r hydref
Dyddiad: Bob dydd.
Ble: Y parcdir.
Pris: Am ddim i bawb ei fwynhau.
Darganfyddwch y parcdir mewn ffordd wahanol drwy ddilyn ein llwybr synhwyrau hunan-dywys. Mae am ddim ac yn addas i bawb o bob gallu. Teimlwch y dail yn crensian dan draed, aroglwch aer ffres yr hydref a gwrandwch ar gân yr adar wrth iddyn nhw heidio cyn hedfan i’r de am y gaeaf. Lawrlwythwch y map i’ch helpu i ddod o hyd i’r marcwyr pinc a fydd yn dangos y ffordd i chi ar hyd y llwybr synhwyrau.
50 Peth i'w Gwneud Cyn Dy Fod Di’n 11 ¾
Dyddiad: Bob dydd o 25 Medi – 21 Tachwedd.
Ble: Y gerddi ffurfiol neu’r parcdir.
Pris: Am ddim, ond bydd angen talu ar gyfer y gerddi ffurfiol.
Mwynhewch bopeth sydd gan Mam Natur i’w gynnig y tymor hwn gyda’r gweithgareddau ’50 Peth i’w Gwneud Cyn Dy Fod Di’n 11 ¾’. Gall unrhyw un fwynhau’r gweithgareddau hyn, ond maen nhw wedi’u dylunio i annog pobl ifanc i gysylltu â natur a threulio amser yn yr awyr iach. Gwnewch y mwyaf o’r tywydd gwlyb drwy grwydro yn eich welîs, neu chwiliwch yn y llwyni am ffyngau ffantastig.
Gallwch gasglu taflenni gweithgaredd o dderbynfa’r ymwelwyr, neu eu lawrlwytho yma.
Tredegar House - Autumn 50 Things activities (PDF / 0.4609375MB) download

Chwedlau a rhyfeddodau Tŷ Tredegar (teithiau tywys)
Dyddiadau: Dydd Gwener 22, Dydd Sadwrn 23 a Dydd Gwener 29 Hydref, 6pm – 8pm.
Ble: Cwrdd yn ardal Fferm y Plas ar gyfer taith-dywys o’r tŷ a’r gerddi.
Pris: £12.50 y pen. Bydd angen i chi archebu ymlaen llaw ar gyfer y daith hon. Archebwch yma.
Dilynwch ein haneswyr arbenigol wrth iddyn nhw adrodd rhai o hanesion hynotaf Tŷ Tredegar. O ddewiniaeth ddu Evan Morgan i atgofion anesboniadwy gan y sawl a fu’n byw a gweithio yn y plasty ‘slawer dydd, bydd y daith gerdded 2 awr hon yn eich tywys drwy rai o straeon rhyfeddaf y teulu Morgan.
Mae’r teithiau hyn yn cael eu rhedeg mewn partneriaeth â Phartneriaeth Tirlun Gwastadeddau Byw.
Pethau i’w nodi:
- Mae hon yn daith gerdded 2 awr o hyd drwy’r eiddo, heb lawer o gyfle i orffwys.
- Mae cynnwys a hyd y daith wedi’u dylunio ar gyfer oedolion, felly efallai na fydd yn addas i blant.
- Oherwydd pensaernïaeth hanesyddol y tŷ, mae’r llwybr yn cynnwys grisiau ac felly yn anffodus mae’n anaddas i bobl llai symudol.
- Ni allwn gynnig lluniaeth ar gyfer y digwyddiad hwn. Ni chewch ddod â bwyd a diod i mewn i’r plasty – rhaid eu storio’n ddiogel pan fyddwch dan do.
Cerfio pwmpenni
Dyddiadau: Dydd Gwener 29 – Dydd Sul 31 Hydref, 11am - 3pm.
Ble: Yr hen ysgol farchogaeth.
Pris: £4 y pen, a’r pris mynediad.
I ddathlu penwythnos Calan Gaeaf, ry’n ni’n dod â’n gweithdai cerfio pwmpenni yn ôl. Taniwch eich creadigrwydd drwy roi personoliaeth i’ch pwmpen – a fydd hi’n un hapus, dychrynllyd neu wirion? Eich dewis chi! Bydd popeth sydd ei angen arnoch yma, felly cofiwch eich creadigrwydd a gadewch i’ch dychymyg danio!
Pethau i’w nodi: Mae’r gweithgaredd hwn ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Talwch am y sesiwn yn nerbynfa’r ymwelwyr.