Crwydrwch ein cynefinoedd
Mae gan ddôl y berllan, ein llynnoedd a’n coetir hynafol oll ran i’w chwarae yn gofalu am y cannoedd o bryfed ac anifeiliaid sy’n galw Tŷ Tredegar yn gartref.
Crwydrwch drwy’r jwngl, mwynhewch antur yn yr isdyfiant a throwch eich llygaid at gopa’r coed i ddysgu am yr holl gynefinoedd gwahanol sydd yn ein gerddi a’n parcdir.
Cadwch lygad allan am bryfed a gwenyn, adar yn nythu a draenogod yn deffro o’u trwmgwsg, a dysgwch sut mae troi eich gardd gefn yn hafan i’r rhywogaethau hyn sydd, yn anffodus, dan fygythiad.