Rydyn ni wedi llwyddo i agor siop lyfrau ail law yn yr hen Felin yn Nhŷ Tredegar - diolch i’n cyfeillion am ddod â channoedd o lyfrau i ni dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Gyda chlasuron, llyfrau coginio, llyfrau teithio a nofelau modern, mae bargen i bawb yma.
Mae’r holl lyfrau’n costio rhwng £1 a £3 a bydd yr holl elw’n aros yn Nhŷ Tredegar gan helpu ein tîm i ofalu am y lle arbennig hwn am genedlaethau i ddod.