Daeth yr Arglwydd Elis-Thomas i weld y gwaith gwerth £1m sy’n cael ei wneud ar y golchdy, a ddechreuodd yn gynharach eleni. Bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei ailddylunio fel canolfan gymunedol werdd ar gyfer ystâd Dyffryn diolch i gyllid ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a grant Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r prosiect 9 mis bydd yr adeilad yn cael ei wagio a’i ailfodelu i gartrefu cegin hyfforddi hygyrch newydd, ystafell hyfforddiant ac ardal gymdeithasol. Ar ôl iddo gael ei gwblhau, bydd yr hen olchdy yn cynnig gofod i sefydliadau lleol gynnal hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol, gan ysbrydoli dysgu a chyfleoedd i gymdeithasu a rhoi hwb i les cymuned Dyffryn.
Yn dilyn y gwaith o adfer y golchdy bydd y rhandiroedd a’r gerddi amgylchynol yn cael eu hailddatblygu, gyda diolch i’r prosiect Llwybrau Coetir at Les sy’n cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr.