Mae’r tîm sgaffaldiau wedi bod yn gweithio’n galed i gadw’r prosiect i redeg ar amser, gan gwblhau’r gwaith ar y sgaffaldiau mewn pryd ar gyfer y gwyliau Nadolig.
Mae’r tîm bach o 10 sgaffaldiwr wedi bod yn brwydro’n erbyn tywydd garw dros yr ychydig wythnosau diwethaf i sicrhau bod y to sgaffaldiau wedi’i osod yn ddiogel ac ar amser. Mae Tŷ Tredegar bellach yn gallu gwrthsefyll y tywydd am y tro cyntaf ers blynyddoedd ac rydyn ni ar y trywydd cywir i ddechrau gweithio ar y to newydd yn y Flwyddyn Newydd.
Y to sgaffaldiau yw uchafbwynt y prosiect Codi’r Caead hyd yma, heb os nac oni bai. Dim ond chwe diwrnod dreuliodd y tîm yn codi naw trawst alwminiwm anferth i greu’r sylfaen ar gyfer y ffabrig gwrth-ddŵr. Drwy rolio’r trawstiau ar draciau, gwnaeth y tîm osgoi’r angen i weithio ar uchder neu ddefnyddio craen i’w gosod.
Cafodd pob darn o ffabrig ei osod rhwng y trawstiau a’i rolio i lawr o ganol y to i greu to ar ffurf pabell fawr i gysgodi’r contractwyr.
Gyda rhai manion bethau i’w gorffen o hyd, bydd Pen Mill Scaffolding ar y safle am rai diwrnodau eto cyn iddynt basio’r allweddi i’r prif gontractwyr, Ellis and Co., a fydd yn dechrau gweithio yma ddydd Llun 9 Ionawr.