Mae Tŷ Tredegar yn cynnig cyfleoedd dysgu i ddisgyblion o bob oedran, o ddeall bywyd y gweision ac edrych ar ddatblygiad y plasty dros 500 mlynedd i astudio’r bywyd gwyllt o amgylch y stâd, mae rhywbeth i bawb yma.
Pecynnau Gweithgareddau
Bydd ein lleoliad ysbrydoledig yn dod â hanes yn fyw wrth i’ch dosbarth ddysgu am aelodau’r teulu Morgan a’u bywydau.
Gall plant ddysgu am William, Godfrey ac Evan Morgan a chael blas ar fywyd gweision Tŷ Tredegar o dan y grisiau. Mae ein gerddi muriog godidog yn berffaith ar gyfer dysgu synhwyraidd ac i fwynhau picnic.
Mae ein holl becynnau gweithgareddau yn addas i blant Cyfnod Allweddol 2.
Gall plant ddysgu am hanes Tŷ Tredegar ar ymweliad
Mae’r holl fanylion am archebu ymweliad ysgol â Thŷ Tredegar yn y pecyn hwn. Ffoniwch ni i gadarnhau argaeledd cyn llenwi a dychwelyd y ffurflen archebu.