Mae'r plasty mawreddog hwn, a oedd yn gartref i'r teulu Morgan dylanwadol am 500 o flynyddoedd, yn un o'r adeiladau pwysicaf o'r fath ym Mhrydain.
Mae cŵn bob amser wedi bod yn boblogaidd yn Nhŷ Tredegar ac rydyn ni'n hoff o'u cynnwys ym mhopeth a wnawn. Gadewch iddyn nhw grwydro'r parcdir ond sicrhewch eu bod nhw ar dennyn yn y gerddi ffurfiol. Defnyddiwch y byrddau sy'n cael eu cadw i gŵn yn yr ystafelloedd te er mwyn i'ch cyfaill bach gael mwynhau hufen iâ i gŵn (gallwch chi gael coffi hefyd wrth gwrs!)
Gwisgwch eich cot a dewch i grwydro'r parcdir; gyda dros 90 o erwau i'w mwynhau rydych yn siŵr o ddarganfod rhywbeth newydd bob tro. Boed yn fywyd gwyllt neu lyn, neu'r coed yn newid eu gwisg gyda thro'r tymhorau, dyma'r lle i ymgolli eich hyn ym myd natur.