Wrth i’r sgaffaldiau ddechrau cael eu datgymalu yn Nhŷ Tredegar, gwyliwch beth sydd wedi bod yn digwydd ar y to dros y naw mis diwethaf..
Gwyliwch y fideo yma.
Rydyn ni'n gweithredu rhaglen o brosiectau cadwraeth i ddiogelu dyfodol ein plasty hyfryd, sy'n dyddio o'r 17eg ganrif, y gerddi a'r parcdir am genedlaethau i ddod.
Bydd Codi'r Caead yn trwsio ac yn ailddatblygu nifer o rannau o'r eiddo gan gynnwys to, simneiau a ffenestri’r plasty, gyda datblygiadau posibl i'r tŷ gwydr, y cytiau a bloc y stabl ymysg llawer o ardaloedd eraill.
Bydd ein prosiect cyntaf yn y rhaglen helaeth hon yn trwsio'r to llechi i sicrhau ei fod yn wrth-ddŵr ac na chaiff ein tŷ a'r casgliad eu difrodi gan ddŵr neu leithder. Bydd gwaith yn cychwyn ar y safle o ganol mis Medi 2016. Disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ystod hydref 2017.
Postiadau diweddaraf
06 Oct 17
Dechrau datgymalu’r sgaffaldiau yn Nhŷ Tredegar

28 Jul 17
“Braint wirioneddol, a phrofiad unigryw”
Gyda dim ond ychydig wythnosau i fynd i Ddringo’r Sgaffaldiau, mae ein hymwelwyr a’n gwirfoddolwyr wedi bod yn rhannu eu profiadau.
Darllenwch fwy yma.
15 May 17
Hanner ffordd yna...
Rydyn ni hanner ffordd drwy’r gwaith o drwsio ein to, ac rydyn ni wedi darganfod ambell beth cyffrous iawn ar hyd y ffordd.
Gallwch weld sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen yma.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .