Cwblhawyd y paentiadau gan artist anhysbys. Nid oes llawer o ddogfennau yn eu cylch ac mae ymchwil yn parhau, fodd bynnag, credir y cawsant eu comisiynu i ddathlu stiwardiaeth Griffith Rice, a oedd yn AS dros Sir Gaerfyrddin rhwng 1701 - 10.
Eisteddwch, a gwyliwch ein ffilm newydd, sy'n rhannu sut mae arbenigwyr wedi astudio'r paentiadau i ddeall mwy am eu gorffennol. Cewch wybod sut y bu i fanylyn bach yn nadansoddiad y paentiad ddatgelu oed go iawn y gweithiau celf.