
Nid hafan dangnefeddus fu hanes Colby erioed; a dweud y gwir, yn niwedd y 1700au, roedd y llecyn hwn yn rhan o brysurdeb y diwydiant glo yn Sir Benfro
Fe blannwyd yr ardd bron i ganrif yn ddiweddarach, ond mae olion gorffennol diwydiannol Colby i’w gweld o hyd, yma ac acw ar hyd yr wyth erw o erddi ac ar yn yr ystâd ehangach.
Gwreiddiau diwydiannol
Er bod cofnodion yn dangos bod cloddio am lo wedi digwydd yn yr ardal ers 700 mlynedd, yn y 1790au mae stori Colby’n dechrau go iawn, pan ddaeth y tirfeddiannwr John Colby i Sir Benfro i sefydlu diwydiant yma.
Mae’r tir ei hunan yn gorwedd ar ben pellaf gwythïen lo Sir Benfro, ac mae’r gwythiennau yn gul iawn. Oherwydd hyn, defnyddiwyd plant i halio’r wagenni glo o’r pyllau.
Byddai’r glo a gloddiwyd yn Colby yn cael ei gludo i’r arfordir ac yna gyda thrên i Saundersfoot.
Mae mapiau cynnar o’r ystâd yn dynodi lleoliad llawer o’r pyllau, ond ʼdoes dim cofnodion cywir i ddangos yn faint yn union sydd yma. Os dewch ar draws unrhyw beth sy’n edrych fel mynediad i bwll, peidiwch mynd mewn os gwelwch yn dda.
Y tŷ a’r ardd
Adeiladwyd Colby Lodge rhwng 1802 a 1805 - nid yw’r tŷ ar agor i’r cyhoedd.
Daeth yr ardd i’w bri yn y 1870au pan brynodd fferyllydd o’r enw Samuel Kay y tŷ a’r ardd.
Fe oedd yr un a ddechreuodd y plannu, ac yn y 1920au fe barhaodd ei ddisgynyddion â’r etifeddiaeth gan ychwanegu’r llynnoedd a nodweddion garddwriaethol eraill, fel y tŷ haf yn y goedwig orllewinol.
Bu nifer o bobl allweddol ar ystâd Colby ers hynny gan gynnwys Elidyr Mason, Pamela a Peter Chance, a Tony a Cynthia Scourfield-Lewis.
Yn ystod eu cyfnodau nhw gwelwyd newidiadau nodedig i’r tirlun, gan gynnwys trawsffurfio gardd gegin y 1960au yn ardd addurniadol yn y 1980au, ynghyd â chodi cofadeiliau, cerfluniau a phlannu llu o rhododendrons.
Trosglwyddwyd perchnogaeth ystâd Colby i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1979.
Rhaid i’r helwyr hanes weld...
- Twll Bedlam – Mae’r fynedfa i’r pwll allan yna yn rhywle...tybed allwch chi ddod o hyd iddi?
- Yr ardd furiog – O ardd gegin i ardd ffurfiol, mae bellach yn drysorfa o blanhigion borderi.
- Olwyn y pwll – Asyn fyddai’n ei droi, ac mae’n nodwedd arall sy’n ein hatgoffa o wreiddiau diwydiannol Colby a’i orffennol glofaol.
- Hen ffordd y tram – Dilynwch y ffordd fyddai’n cludo glo a gloddiwyd yn Colby i’r arfordir.
- Cofadail Pamela Chance – Fe welwch y cylch o bileri metel yn Long Lane ar ochor bellaf y dyffryn.
- Gwaith celf trompe l’oeil – Mae’r gwaith twyll-llygad unigryw yn nodwedd bwysig tu fewn i gazebo yr ardd furiog.