Daw’r gwanwyn â’i garped o glychau glas, saffrwm a chennin Pedr, ac yna’r tonnau o asaleas, camelias a rhododendrons, sef arbenigrwydd yr ardd.
Yn yr haf daw’r trilliw-ar-ddeg a blodau gwyllt i’w blodau, ac mae’r ardd furiog yn werth ei gweld yr adeg yma o’r flwyddyn.
Mae’r hydref a’r gaeaf yr un mor ddeniadol gyda lliwiau godidog y masarn Siapaneaidd, y cwyros a’r gludwydden felys.
Mae amrywiaeth eang o goed enghreifftiol yn yr ardd gan gynnwys Coeden Benigamp, sef y gochwydden Siapaneaidd dalaf yn y DU, sy’n ymestyn 134 troedfedd fry i’r awyr.
Fe sylwch hefyd ar bentyrrau o foncyffion ac ambell goeden yn gorwedd ble syrthion nhw. Mae hyn er mwyn annog bywyd gwyllt a chreu cynefin i drychfilod a chorynnod.
Pethau na wyddech chi am Colby, siwr o fod
-
Mae’r pridd yn asidig felly gallwn dyfu planhigion fel rhododendrons, asaleas a camelias.
-
Mae’r dyffrynnoedd uwchben Colby yn gartrefi i goedwigoedd deri pwysig.
-
Tyfwyd coed deri yma i ddarparu propiau i’r pyllau glo.
-
Tua 60 mlynedd yn ôl, ceisiodd pobl blannu coed coniffer yn lle coed deri, ond ry’n ni wedi newid hyn, a chael gwared ar y rhan fwyaf o’r conifferau.
-
Edrychwch am wyddfid, grug a choedfrwyn…arwyddion o goedwig hynafol.