Mae ‘na rywbeth at ddant pawb yma yn Ninefwr.
Caffi’r Ystafell Filiards
Mae gennym ddewis da o giniawau ysgafn a phwdinau yng nghaffi’r Ystafell Filiards. Mae’r staff cyfeillgar a’r tanllwyth o dân sy’n cynhesu’r lle yn y gaeaf yn sicrhau ei fod yn lle delfrydol i ymlacio a gwerthfawrogi’r lleoliad. Mae’r seddau wrth y ffenestri yn wych ar gyfer gwylio’r Gwartheg Gwynion, sy’n treulio’r rhan fwyaf o’r haf yn y parc mewnol.
Ystafell ar gyfer chwarae biliards ac ysmygu oedd yma’n wreiddiol a chafodd ei ychwanegu at y tŷ tua diwedd yr 1890au. Cafodd y crogluniau ar y waliau eu creu’n arbennig ar gyfer y caffi; maen nhw’n dangos rhai o’r coed yn y parc. Tybed allwch chi ddod o hyd iddyn nhw wrth fynd am dro?
Caffi Rhodfa’r Castell
Dewch draw i’n caffi newydd sydd hefyd yn croesawu cŵn. Cafodd ei gynllunio’n arbennig fel y gall pobl sy’n mynd am dro yn y parc gael paned sydyn heb orfod poeni am ‘sgidiau brwnt neu glymu’r ci y tu allan.
A wyddech chi mai ar safle Caffi Rhodfa’r Castell yr oedd lladd-dy’r stad? Fe benderfynon ni efallai y byddai’n well peidio â’i alw’n Gaffi’r Lladd-dy!
Cynnyrch sydd wedi ennill gwobrau
Mae ein cig carw wedi ennill gwobr gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am gynnyrch fferm da.
Mae danasod wedi bod ar y stad ers 1660. Maen nhw’n pori ar ddail sydd wedi syrthio o’r hen goed derw ac ar y borfa goediog sydd heb ei newid gan ddyn ers canrifoedd.
Dinefwr yw’r unig barcdir yng Nghymru sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol – allwch chi feddwl am le gwell i gael eich cig carw?
Mae ein cig carw ar werth yn ein siop fferm ym Nhŷ Newton yn ystod y tymor prysur.