Lawnt oedd yr ardd pan brynwyd Tŷ Dinefwr gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1990, ond adferodd yr Ymddiriedolaeth yr ardd i’w chyflwr ffurfiol gwreiddiol. Cafodd yr ardd ei hail-blannu yn seiliedig ar hen gynlluniau a ffotograffau o oes Fictoria. Dewisom oes Fictoria gan fod ffynnon Romanésg drawiadol yn sefyll yng nghanol yr ardd, a osodwyd ym 1860.
Yn anffodus nid yw’r ffynnon yn gweithio erbyn hyn. Mae’r peipiau’n gollwng ac mae basn y ffynnon wedi dechrau dirywio a thorri’n ddarnau. Mae angen eich help chi arnom i godi arian i gynnal arolwg o’n ffynnon i asesu pa waith sydd angen ei wneud yn union a’i gwblhau.
Rydym wedi dechrau gwaith yng ngardd y ffynnon yn barod, gan docio’r coed ywen Gwyddelig i roi bywyd newydd iddynt ar ôl iddynt golli eu siâp ‘colofn’ a gosod coed newydd yn lle’r coed ywen Euraid o gwmpas y ffynnon, a oedd wedi tyfu’n rhy fawr. Felly peidiwch â gofidio am eu cyflwr presennol – mae’r ywen yn enwog am ei grym aildyfu.
Raffl i godi arian
Mae tocynnau raffl ar werth yn Ninefwr a bydd yr holl arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at adfer gardd y ffynnon. Os prynwch docyn raffl fe allwch ennill £10,000, ond yn bwysicach fyth byddwch yn gwybod bod y bunt neu ddwy rydych wedi eu gwario yn ein helpu i warchod gorffennol Dinefwr ar gyfer y dyfodol.