Dylanwad Capability Brown ar stad Dinefwr

Autumnal view at Newton House at Dinefwr, Llandeilo, Carmarthenshire, Wales

Yn 1547, gwnaeth Gruffudd, mab ieuengaf Rhys ap Gruffudd, gais i Edward VI i adfer statws ei deulu. Caniatawyd hyn ac felly dechreuodd Gruffudd ap Rhys – neu Griffith Rice fel roedd yn cael ei nabod erbyn hyn – brynu’r tir a gollwyd gan ei deulu yn ôl.

Dros y deng mlynedd nesaf, aeth Griffith ati’n raddol i adfer eiddo’r teulu – ond yn 1557 hawliwyd y tir gan y Goron unwaith eto pan gafwyd ef yn euog o lofruddiaeth. Rywsut, cafodd bardwn, a daliodd ati i ychwanegu at y stad. Parhaodd ei fab, Walter, a’i ŵyr, Henry, gyda’r gwaith tan yr ail ganrif ar bymtheg.

 

Cyfnod sefydlog

Erbyn 1659, mab Henry, Edward, oedd yn berchen ar stad Dinefwr. Aeth ati i greu parc ceirw, symud heolydd er mwyn ymestyn ei dŷ, a chodi waliau terfyn. Ar ôl llwyddo i adfer stad Dinefwr i’r teulu, cychwynnodd y teulu Rice ar gyfnod newydd pwysig o dirlunio – ac ar ôl i Edward farw (tua 1663) parhaodd Walter, brawd Edward, â’r gwaith hwn.

 

Golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ffurfiol

Yn y dyddiau cyn i deithio ddod yn hwylus, roedd llawer o foneddigion cyfoethog yn comisiynu darluniau o'u tai yn y wlad i'w harddangos yn eu cartrefi yn Llundain. Mae pedwar darlun, yn dyddio o tua 1690, i’w gweld yn Nhŷ Newton ac maen nhw’n dangos golygfeydd dros y stad fel yr oedd bryd hynny.

 

George a Cecil Rice – dylunio’r tirwedd

Yn ystod y ddeunawfed ganrif, cafodd gerddi a pharciau llawer o blastai eu hailwampio i adlewyrchu dealltwriaeth ac edmygedd newydd o dirwedd naturiol – ac nid oedd Parc Dinefwr yn eithriad.
George Rice a’i wraig Cecil oedd perchnogion Stad Dinefwr bryd hynny. Hi oedd unig blentyn William Talbot o Hensol, Sir Forgannwg, oedd yn eithriadol o gyfoethog. Roedd bywyd yn gyfforddus iawn i George a Cecil ac roedd ganddyn nhw lawer o gysylltiadau bonheddig, a olygai eu bod nhw’n treulio cryn dipyn o’u hamser yn Llundain. Dylanwadwyd ar y ddau gan syniadau newydd ym meysydd athroniaeth a diwylliant, yn enwedig y syniad y gallai byd natur fod yn gelfyddyd.

 

Mynd ati i ailwampio

Cliriwyd hen nodweddion ffurfiol fel rhodfeydd coed union a gwelyau blodau ag ochrau syth. Yn eu lle rhoddwyd lawntiau tonnog, llynnoedd troellog a chlystyrau o goed. Crëwyd golygfeydd wedi’u cynllunio’n ofalus. Roedd rhai’n cyfeirio golygon at y dirwedd ehangach y tu hwnt i waliau'r Parc, ac eraill yn arwain y llygad tuag at adeiladau addurnol. Doedd dim rhaniad rhwng y parc a’r plas. Roedd ‘ha-ha’ neu ffos gudd â wal gynnal yn cadw’r anifeiliaid draw o’r ffenestri.

 

Dylanwad ‘Capability’ Brown

Lancelot ‘Capability’ Brown oedd dyluniwr tirwedd enwocaf y ddeunawfed ganrif. Rhwng 1751 ac 1783 dyluniodd 170 o erddi a stadau ledled Prydain ac fe gafodd ei arddull ei dynwared mewn llawer o rai eraill.

 

Brown yn Ninefwr

Daeth Brown ar ymweliad â stad Dinefwr yn 1775. Mae’n amlwg bod y lle wedi creu argraff arno ac ysgrifennodd, ‘I wish my journey may prove of use to the place. Nature has been truly bountiful and art has done no harm’.
 
Gofynnodd George Rice i Brown awgrymu gwelliannau i’r tirwedd. Argymhellodd Brown y gellid adeiladu a symud nifer o waliau, ffensys a llwybrau, cyfuno caeau i wneud dolydd mawr, symud yr ardd lysiau i fferm y plas yn Little Newton, creu planhigfa newydd a symud mynedfa Llandeilo. Derbyniwyd rhai o argymhellion Brown ond anwybyddwyd eraill, fel creu gardd yn y parc ceirw.

 

Hen goed – etifeddiaeth Dinefwr

Roedd rhai o goed stad Dinefwr eisoes yn gant oed pan oedd Rhys ap Thomas yn byw yma tua diwedd y bymthegfed ganrif. Yn y coetir hwn y mae un o'r casgliadau gorau o goed aeddfed ym Mhrydain ac mae pryfetach a mwsoglau prin yn byw yma mewn pren marw. Mae’r anifeiliaid sy’n pori’r parc ceirw yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o reoli’r coetir, ac yn helpu sicrhau bod y planhigion gorau’n dal i ffynnu.

 

Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rheoli’r Parc?

Yn ogystal â gofalu am y coed aeddfed, mae angen i ni blannu rhai newydd fel y bydd yma goed  o wahanol oedrannau bob amser. Byddwn yn plannu rhagor o goed yn y Parc Gwartheg Mewnol ac Allanol er mwyn ail-greu cynllun y ddeunawfed ganrif.
 
Yn y pen draw, bydd y planhigfeydd hyn yn cael eu rheoli fel y parc ceirw, yn borfa goediog. Trwy wneud hyn, gobeithio y bydd stad Dinefwr bob amser yn enwog am ei choed hynafol.