Gallwch roi cynnig ar gamp newydd sbon ar ddydd Mawrth Mynd Amdani. O badminton i saethu targed, bydd gweithgaredd newydd bob wythnos. Neu gallwch gael diwrnod yng nghwmni Wardeniaid Parc Dinefwr gan bod dyddiau Mercher Chwilota yn rhoi cyfle i blant bywiog hela chwilod a dal anghenfil brawychus cyn mynd ati i chwilota am esgyrn a ffosiliau.
Mae gan Ddinefwr ddigon o lechweddau mawr i rolio lawr, digon o borfa i wneud utgyrn gwelltog, pyllau a rhaeadrau i chwarae taflu ffyn bach, a digonedd o fywyd gwyllt i’w ddilyn drwy’r tir coediog.
Mae Teithiau Trelar Tractor yn rhoi cyfle i chi ddod i wybod mwy am anifeiliaid parhaol Dinefwr, sef Gwartheg Gwynion prin y parc a’r Hyddod Brith.
Ar ôl gwylio bywyd gwyllt a hel hanes, anelwch am awyrgylch hyfryd Tŷ Newton a dysgwch am gyfrinachau’r adeilad hanesyddol hwn. Mae teithiau o amgylch y tŷ bob dydd, a dyma ffordd ardderchog i ddysgu am orffennol Dinefwr.
Gallwch ail-fyw hanes y teulu yr haf hwn trwy chwarae gemau traddodiadol y tu mewn i Dŷ Newton. Mae’r maenordy, sy’n dyddio o’r 17eg ganrif, wedi ei ddodrefnu yn arddull y cyfnod Edwardaidd, ac mae croeso i chi roi tonc ar y grand piano neu chwarae croquet ar y lawnt.