Morwyn Llyn y Fan

Gwartheg Gwynion Parc Dinefwr

Yn ôl y chwedl, roedd mab fferm ifanc yn gwylio’i braidd o ddefaid yn pori’r tir o amgylch Llyn y Fan Fach, islaw’r Mynydd Du, ac yn treulio oriau maith y dydd yn syllu i ddŵr disglair y llyn.

Wrth iddo dyfu, byddai’n pasio’r llyn bob dydd. Un diwrnod fe ddaeth menyw hardd allan o ddyfroedd y llyn a daeth at y llanc, a oedd yn fud gan syndod. O’r eiliad honno, cafodd ei hudo’n llwyr gan ei swyn.
 
Doedd yna neb a oedd mor hardd a gosgeiddig â hi, na neb mor ddoeth, ac fe ddywedodd hi wrtho yn syth y byddai’n ddyn cyfoethog a pharchus petai yn cytuno i’w phriodi. Ond, fe fyddai’r llwyddiant hwn a’r briodas rhyngddyn nhw yn dibynnu ar amodau.
 
Yn gyntaf, nid oedd i’w tharo fwy na thair gwaith. Yn ail, ni ddylai sôn gair am o ble y daeth hi, nac am natur goruwchnaturiol eu llwyddiant a’u perthynas.
 
Cytunodd y llanc yn barod a llwyddodd hyd yn oed i gadw cyfrinach ei hymddangosiad sydyn – peth anodd iawn ymhlith ei gymdeithas glos.
 
Rhoddodd ei thad ei gwaddol iddi o’r Llyn, sef y stoc gorau o ddefaid a geifr, ceffylau a gwartheg gwynion yn y wlad i gyd.
 
Fe fu’r ddau yn byw’n hapus iawn am nifer o flynyddoedd ac fe gawson nhw dri mab. Ond, fel llawer o ddynion ifanc, tyfodd y llanc i fod yn hunanfodlon, yn drahaus efallai ar adegau, ac fe darodd ei wraig yn ysgafn a difeddwl dair gwaith – unwaith pan nad oedd hi’n fodlon mynd i wasanaeth bedydd yn yr ardal, dro arall pan grïodd mewn priodas a’r tro olaf pan chwarddodd mewn angladd.
 
Y trydydd tro, fe safodd ei wraig yn dalsyth, rhythu i gannwyll ei lygad a datgan bod eu priodas ar ben.
Trodd ar ei sawdl a cherdded allan o’u fferm gan alw ar ei gwartheg a’i chreaduriaid i’w dilyn wrth iddi groesi tir eu fferm.
 
Mu wlfrech, moelfrech,      
Mu olfrech, gwynfrech...      
Gyda'r tarw gwyn              
O lys y Brenin,                   
A'r llo du bach,                   
Sydd ar y bach,                 
Dere dithe, yn iach adre!   
 
Dringodd at y llyn ac heb yngan gair fe gerddodd i mewn iddo unwaith eto, a phob creadur yn ei dilyn i mewn i’r dyfroedd oer, llonydd. Safai ei gŵr ar y lan yn torri ei galon, a’i alw ymbilgar arni yn atseinio yn erbyn y mynyddoedd o gwmpas.
 
Dychwelodd y gŵr i’w fferm heb awydd trin y tir mwyach, yn llawn euogrwydd ac edifeirwch, a’i fywyd yn chwilfriw. Ei unig gysur oedd y tri mab, a anwyd iddo a’i wraig o’r arall-fyd, oedd yn ei garu o hyd, ac fe dyfon nhw i fod yn feddygon – Meddygon Myddfai.
 

Meddygon Myddfai

Wrth i’r meibion dyfu, daeth yn glir eu bod wedi etifeddu gwybodaeth hudol a galluoedd cyfrin eu mam. Fe allasent fod wedi defnyddio’r pwerau hyn i fod yn filwyr nerthol, ond yn lle hynny fe ddewison nhw fod yn feddygon, a sefydlu llinach o iachawyr mawr.