Antur Fictorianaidd ar ôl ffortiwn yn Nolaucothi

Fictoriaid yn Nolaucothi

Mae’n debyg i’r holl wybodaeth am y fwynglawdd aur ac am y gwaith cloddio yn Nolaucothi ddiflannu gyda’r Rhufeiniaid.

Y cyfnod mwyaf gweithgar o ran cloddio yn Nolaucothi yn ystod y Cyfnod Fictorianaidd/Edwardaidd oedd o gwmpas troad yr 20fed ganrif, yr un adeg ag agoriad mwyngloddiau aur cyntaf De Affrica a’r Klondike Gold Rush.

Cwmni Mwyngloddio Aur De Cymru

Efallai mai’r darganfyddiad o aur yn Ne Affrica ysbrydolodd y prif fwynwr, Edward Jones, i ffurfio Cwmni Mwyngloddio Aur De Cymru ac yna i gymryd prydles ar y gwaith mwyngloddio gan deulu’r Johnes (oedd berchen yr ystâd) rhwng 1888 a 1894, gan obeithio gwneud ei ffortiwn. Yn anffodus i Jones, dim ond ychydig iawn o aur oedd yn y garreg a ddeuai allan o’r fwyngloddfa ac felly doedd hi ddim yn talu’r ffordd i gloddio yma.

Er nad oedd Jones a’i fenter yn llwyddiannus, un gŵr a brofodd rhywfaint o lwyddiant yn Nolaucothi oedd peiriannwr cloddio o Gernyw, James Mitchell, oedd wedi profi’r rhuthr aur yn Ne Affrica yn uniongyrchol.

Dolaucothi yng nghyfnod yr Edwardiaid

Cyflogwyd Mitchell i ail-agor y mwyngloddiau yn Nolaucothi yn 1905 gan y teulu Johnes. Arhosodd yno, mewn nifer o swyddi, tan 1912.

Oherwydd i Mitchell wneud elw yn ei flwyddyn gyntaf, cafodd ei ddarbwyllo i ffurfio ei gwmni ei hun o’r enw Ogofau Proprietary Gold Mining Company. Cafodd y cwmni lwyddiant ar y dechrau; llwyddod wneud elw wrth , gan wneud elw tra’n parhau i gloddio aur mewn symiau bychan, ond yn dilyn diffyg dod o hyd i fwy o aur a chyfalaf oedd yn lleihau, bu’n rhaid i fenter Mitchell ddoed i ben yn 1909.

Tri chynnig i Gymro?

Er hynny, roedd llith aur a chyfoeth posibl yn parhau i hudo, gan i Cothy Mines gymryd y brydles drosodd, ac ail-gyflogi James Mitchell fel rheolwr y mwynglawdd yn y gobaith y byddai’n lwcus yr eilwaith.

Y tro hwn dechreuodd Mitchell drwy dyllu’r siafft fawr cyntaf ar y safle, a fyddai’n cyrraedd dyfnder  o 100 troedfedd (30.5m). Ar ben y siafft roedd strwythur pren mawr a elwir yn ‘ffrâm y pen’ oedd yn mynd â’r mwynwyr lawr i ddyfnderoedd y bareli. Bydden nhw hefyd yn cael eu codi yn yr un modd.

Unwaith eto, mygwyd holl ymdrechion Dolaucothi i wneud ffortiwn, wrth i siafft Mitchell ddod ar draws gweddillion gweithfeydd Rhufeinig oedd wedi’u boddi ganrifoedd yn ddiweddar. Roedd y gost o bwmpio’r dŵr allan yn ormod i Cothy Mines a daeth gweithrediadau i ben yn 1912.

I glywed mwy am stori James Mitchell yn y ceuffyrdd a grëwyd, ac i glywed mwy sut beth oedd gweithio mewn mwynglawdd aur yn ystod y cyfnod hwn, pam na wnewch chi roi cynnig ar ein Taith Fictorianaidd?