Mae un stori yn adrodd hanes pump o ddynion da oedd yn byw yn y cyffiniau: Ceitho, Celynnen, Gwen, Gwnog a Gwynaro.
Fe wnaeth dewin a oedd yn byw yng ngheudyllau’r mwynglawdd ymosod ar y pump gyda chawod o gesair mor ffyrnig nes bod eu pennau yn tolcio’r graig.
Aeth y dewin â nhw i’w ffau lle maen nhw’n dal i orffwys, fel y Brenin Arthur, mewn cwsg hudol.
Hanes dirgel
Argraffwyd hanes dirgel arall am y mwynglawdd yn 1904: ‘Aeth merch chwilfrydig o’r enw Gwen i ysbïo ar y brodyr sanctaidd yn eu trwmgwsg, a chafodd ei chosbi drwy golli ei ffordd yng nhwnneli’r mwynglawdd. Rhoddwyd hud arni hi hefyd fel ei bod yn aros mewn cyflwr di-farw, ond roedd rhaid iddi ddod allan a dioddef mewn storm a glaw. Yn y nos, pan fyddai ei chorff yn symud fel tarth o amgylch yr hen ogofâu, byddai’n codi ofn ar bobl gyda sŵn ei chrio a’i griddfan.’
Nid yw pawb yn credu chwedlau carreg Pumsaint. Dywed archaeolegwyr fod y garreg yn einion Rufeinig a ddefnyddiwyd ar gyfer gwasgu’r mwyn i gael yr aur.
Ond pa stori yw’r gorau?