Skip to content
Teulu’n taflu brigau i’r afon ar y bont yn Erddig, Cymru
Teulu’n taflu brigau i’r afon ar y bont yn Erddig | © National Trust Images/Natalie Overthrow

Diwrnodau allan i'r teulu yng Nghymru

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Diwrnod i’r teulu yng Ngogledd Cymru

Castell Y Waun a’r Ardd 

Bydd crwydro o amgylch Tŵr Adam, a’r daeargelloedd, yn sicr o roi mwynhad i’r teulu cyfan. Llosgwch egni yn yr ardaloedd chwarae naturiol neu ewch ar antur ar hyd yr ystâd.

Y Waun, Wrecsam

Yn rhannol agored heddiw
Plentyn yn dringo grisiau canoloesol Tŵr Adam yng Nghastell y Waun, Wrecsam

Neuadd a Gardd Erddig 

Gyda gweithgareddau gwahanol bob tymor i’r teulu, aceri o barcdir ac ardal chwarae naturiol i redeg yn wyllt ynddi, mae digonedd yma i gadw eich anturiaethwyr bach yn brysur.

Wrecsam

Yn rhannol agored heddiw
A girl wearing brightly coloured winter clothes on a rope swing

Castell Penrhyn a'r Ardd 

Gwisgwch eich esgidiau glaw ac ewch am dro i’r goedwig. Dewch o hyd i’r guddfan goed i wylio bywyd gwyllt a chofiwch fynd i’r ardal chwarae coetir naturiol.

Bangor, Gwynedd

Ar gau nawr
Plentyn yn crwydro'r Ardd Gorsiog o'r caban to gwellt yng Nghastell a Gardd Penrhyn, Cymru

Plas Newydd a’r Ardd 

Ewch draw i Goedwig yr Hen Laethdy i ddod o hyd i’r ardal chwarae antur. Neu crwydrwch i’r tŷ pen coeden a dilynwch y llwybr drwy’r coed i archwilio’r Goedardd.

Llanfairpwll, Sir Fôn

Ar gau nawr
Plant yn mwynhau'r tŷ yn y coed ym Mhlas Newydd

Plas yn Rhiw 

Mwynhewch ddiwrnod hamddenol braf wrth i chi ddarganfod yr ardd fwthyn berffaith hon, sydd â golygfeydd godidog o’r môr. Gadewch i’r rhai bach redeg yn wyllt yn y perllannau. 

Pwllheli, Gwynedd

Ar gau nawr
Family of four - toddler on her father's shoulders, and mother with a baby in a papoose, walking through the woodland at Acorn Bank.

Gardd Bodnant 

Chwaraewch ‘Dw i’n gweld gyda fy llygad bach i’, dewch o hyd i’r Ddrysfa Helyg fyw ac ewch i ymweld â’r Parc Chwarae gyda’i rodfeydd igam-ogam a phont grog fach. Mae digonedd o le i deuluoedd fwynhau amser gyda’i gilydd yn yr ardd 80 acer hon.

ger Bae Colwyn, Conwy

Yn hollol agored heddiw
Ymwelwyr yn archwilio Gardd Bodnant, Cymru

Diwrnodau allan i'r teulu yng nghanolbarth Cymru

Castell a Gardd Powis 

Dewch i Bowis am hwyl i’r teulu oll wrth i chi grwydro ystafelloedd y castell sy’n dyddio’n ôl i'r 13eg ganrif, chwarae ar y lawnt fawr neu droedio llwybr yr ardd sy’n sicr o blesio’r plantos.

Y Trallwng, Powys

Yn rhannol agored heddiw
Ymwelwyr yn yr ardd yn y gaeaf yng Nghastell Powis, Cymru

Llanerchaeron 

Beth am ddod i ddweud helô wrth yr anifeiliaid ar y buarth ac edrych beth sy’n tyfu yn yr ardd furiog? Ar ddiwrnod glawog ewch i’r Hen Ystafell Filiards i roi cynnig ar gêm o ping pong a phêl-droed bwrdd.

ger Aberaeron, Ceredigion

Yn rhannol agored heddiw
Ymwelydd ifanc yn chwarae gyda phegiau yn yr iard yn Llanerchaeron tra bod un arall yn ei wylio

Dolaucothi 

Mynnwch badell a chwiliwch am aur neu trefnwch daith dan ddaear i fynd am antur yn unig fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys y DU.

Llanwrda, Sir Gaerfyrddin

Yn rhannol agored heddiw
Taith Rufeinig

Dyddiau i’r teulu yn Ne Cymru

Tŷ Tredegar 

Crëwch atgofion i'w trysori gyda gweithgareddau gwisg ffansi a phypedau yn y tŷ. Rhowch fag anturiwr ar eich cefn ac ewch allan i’r ardd i ddod yn nes at fyd natur neu dilynwch y Llwybr Glan Llyn sy’n addas i deuluoedd.

Newport

Yn rhannol agored heddiw
Spring at Tredegar House, Newport, Wales

Gerddi Dyffryn 

Byddwch wyllt gyda'ch anturiaethwyr bach yr hydref hwn.Gyda dwy ardal chwarae naturiol, a digonedd o weithgareddau ’50 Peth i’w gwneud cyn eich bod yn 11¾’, mae yna rywbeth at ddant pawb yn Nyffryn. 

Sain Nicholas, Bro Morgannwg

Yn rhannol agored heddiw
A family dressed for winter walk along a path with a house behind them

Dinefwr 

Gydag anturiaethau gwyllt a llwyth o hanes, mae digon i’w ddarganfod yn Ninefwr. Dilynwch lwybr natur, gwyliwch greaduriaid y coetir, ewch i weld y gwartheg Parc Gwyn enwog, neu cwblhewch rai o weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’.

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Yn rhannol agored heddiw
Three young children explore the formal garden at Dinefwr. They're wrapped up warm for winter, wearing wellies, and balancing along the stonework around a garden sculpture feature.

Gardd Goedwig Colby 

Adeiladwch ffau yn y goedwig, neidiwch ar draws yr afon ar gerrig camu enfawr, chwaraewch gêm o ffyn pooh, a mwynhewch ddigonedd o le naturiol i chwarae ynddo yn y coetir mawr hwn.

ger Llanrath, Sir Benfro

Yn rhannol agored heddiw
Family walking at Fell Foot in winter, Cumbria

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru ym mis Awst.

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

A view of the front of the red mansion house

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Golygfa o’r Teras Lili a’r pwll o’r tŷ yng Ngardd Bodnant, Conwy
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.