
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Mae dyffryn coediog cudd Colby yn llawn rhyfeddodau annisgwyl. Gyda’i orffennol diwydiannol a’i ardd gudd, mae’n lle perffaith i ddysgu am dreftadaeth a chwarae ym myd natur.
Gardd Goedwig Colby, ger Llanrath, Sir Benfro, SA67 8PP

| Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su |
|---|---|---|---|---|---|---|
Agored
Ar gau
| Asset | Opening time |
|---|---|
| Coedwig | 10:00 - 17:00 |
| Maes parcio | 10:00 - 17:00 |
| Gardd Furiog | 10:00 - 16:00 |
| Yr Oriel | 10:00 - 16:30 |
| Ystafell De | 10:00 - 16:00 |
| Canolfan Croesawu Ymwelwyr a Siop Lyfrau Ail-law | 10:00 - 16:00 |
Nodwch: Am oriau agor Gaeaf (Mis Tachwedd-Mis Mawrth) Ystafell De’r Bothy, gweler ei thudalen Facebook neu cysylltwch dros y ffôn 01834 526202.
| Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
|---|---|---|
| Hyd at 3 awr: | £4.00 | |
| Trwy'r dydd: | £8.00 |
| Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
|---|---|---|
| Hyd at 3 awr: | £6.00 | |
| Trwy'r dydd: | £12.00 |
| Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
|---|---|---|
| Trwy'r dydd: | £25.00 |
| Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
|---|---|---|
| Hyd at 3 awr: | £4.00 | |
| Trwy'r dydd: | £8.00 |
| Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
|---|---|---|
| Hyd at 3 awr: | £5.00 | |
| Trwy'r dydd: | £10.00 |
Croeso i gŵn yn y brif ardd, ond rhaid eu cadw ar dennyn bob amser. Ni chaniateir cŵn yn yr ardd furiog.
Mae gennym beiriant talu ac arddangos ar waith yn ein maes parcio, lle mae costau maes parcio yn berthnasol i bobl nad ydynt yn aelodau. Sganiwch eich cerdyn aelodaeth wrth gyrraedd. Croeso i fysiau sydd wedi archebu lle yn unig: 01646 623 110
Siop llyfrau ail law
Er mwyn cyfieithu’r dudalen we AccessAble i’r Gymraeg, cliciwch y botwm ar y dde uchaf gyda’r label “Accessibility”. Dewiswch “newid iaith” ac o’r rhestr o ddewisiadau dewiswch “Welsh/Cymraeg”. Ar ôl i chi osod eich dewisiadau Recite Me bydd y safle AccessAble yn cofio eich gosodiadau pan fyddwch arno yn y dyfodol.
Cadair olwyn ar gael ar gais
Bwrdd newid babanod sy’n plygu
Mynediad lefelau cymysg ar hyd a lled yr ardd
Mae Gardd Goetir Colby wedi'i graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i'r dyffryn coediog a phryd a lle allwch chi fynd.

Dewch i fwynhau diwrnod yn archwilio Gardd Goetir Colby a’r ystâd ehangach gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Archwiliwch yr ardd goediog, gudd, sydd mewn dyffryn, dewch i ddysgu am ei hanes a rhyfeddu at y coed a’r awyr yn y llannerch.

Cymerwch olwg ar y map o Ardd Goedwig Colby i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)
Dysgwch ragor am yr holl ddigwyddiadau cyffrous sydd gennym wedi'u paratoi ar gyfer y tymor hwn

Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.

Maes glo o’r 18fed ganrif sydd wedi’i drawsnewid yn ardd goedwig gudd sy’n wyth erw o faint.
Rhwng dau goetir, 4 erw o ddôl llifogydd sy’n fôr o flodau gwyllt brodorol.
Gardd furiog gydag arddangosfa flodau ffurfiol ffantastig, yn ogystal â cherfluniau, nodwedd ddŵr a gasebo Gothig Fictoraidd.
Mae Ystafell De’r Bwthyn yn gweini cinio ysgafn a chacennau cartref gan Francesca a’i merch..
Canolfan groeso i ymwelwyr a siop lyfrau ail law wrth y maes parcio wrth i chi ddod i mewn tuag at yr ardd, yr ystafell de a’r galeri.
Llwybr cerdded o’r ardd i lawr i’r pentref i draeth euraidd Amroth.
Ystâd 900 erw o goetir a thir amaeth, gyda llwybrau amrywiol.
Mae Oriel y Lofft yn arddangos celf a chrefft lleol gan grefftwyr Sir Benfro yn bennaf
Dewch i fwynhau diwrnod yn archwilio Gardd Goetir Colby a’r ystâd ehangach gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Archwiliwch yr ardd goediog, gudd, sydd mewn dyffryn, dewch i ddysgu am ei hanes a rhyfeddu at y coed a’r awyr yn y llannerch.

Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.

Ymhell cyn i’r ardd ymwreiddio, chwaraeodd ystâd Colby ran bwysig yn niwydiant glo Sir Benfro. Dysgwch fwy am yr ardd a bywydau ei thrigolion.

Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu gyda’r gwahanol ardaloedd o’r ardd rydym yn gofalu amdanynt, sy’n golygu bod digon o rolau diddorol i’w hystyried.

Cewch ddilyn llwybrau coetir, darganfod nodweddion hanesyddol a mwynhau’r bywyd gwyllt ar hyd y llwybr hwn i’r teulu cyfan. Gallwch hefyd fynd am dro hirach i draeth Llanrhath.

Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn hwyl a sbri i’r teulu i gyd, gan gynnwys tŷ coeden a maes chwarae antur, gyda mynyddoedd Eryri ac Afon Menai yn gefndir godidog.

Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.

Taith gerdded gylchol hawdd, trwy goetir, gan groesi nant ac i fyny at drysor cudd Fferm ‘Craig y Borion Fach’ (bwthyn gwyliau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Golygfeydd gwych ar draws tir fferm wrth i chi ddisgyn yn ôl i Ardd Goedwig Colby.

Mae'r daith gerdded gylchol olygfaol hon yn troelli trwy goetir yr ystâd gan ddilyn cwrs y nant ar lawr y dyffryn. Mae'r llwybr yn dringo i fyny i olygfeydd arfordirol godidog sy'n ferw o flodau gwyllt yn y gwanwyn a dechrau'r haf, cyn esgyn yn araf trwy goetir uwchben glan yr afon.

Mae'r llwybr hunan-dywys hwn wedi'i farcio gan lwybr 2km o borfa wedi’i thorri sy’n mynd trwy gaeau a gwrychoedd i greu llwybr cylchol clocwedd. Mae gan y safle doreth o'r hen a'r newydd, gyda ffiniau caeau hanesyddol a llwybrau cloddio, yn ogystal â choetir llydanddail brodorol sydd wedi’i blannu’n ddiweddar (2024) gyda phyllau bywyd gwyllt drwyddi draw. Mwynhewch daith hamddenol gyda golygfeydd eang. Cadwch olwg dros amser wrth i’r safle newydd hwn ddod yn noddfa i lygod yr ŷd, gloÿnnod byw a gweision y neidr.

Mae'r daith gerdded gylchol hardd hon yn troelli drwy goetiroedd ystadau a thir fferm. Yn disgyn i'r dyffryn, yna'n dringo'n serth i fferm Craig-y-Borion Fach. Mwynhewch olygfeydd arfordirol godidog o dir fferm gwastad, sy'n llawn blodau gwyllt yn y gwanwyn a dechrau'r haf, cyn dychwelyd trwy goetir heddychlon Craig y Borion.

Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.


On a quiet country lane, with a stream in the garden, close to Colby Woodland Gardens and the beach.

A gorgeous Victorian cottage surrounded by Colby Woodland Gardens just a short stroll from Amroth beach.

A picture-perfect 200-year old whitewashed stone farmhouse, deep in the Pembrokeshire countryside surrounded by woodland and meadows with the beautiful Welsh coast on the doorstep.
From 8 April to 12 July, borrow an explorer backpack every day from the Welcome Centre and use what's inside to explore the nature at Colby
Guided history walks around the story-rich gardens and woodland.
Bring the whole family to Colby this summer for soft archery, meadow games and lots of fun in nature.
On 29-31 August come and see what the Pembrokeshire Woodturners Association have been up to this year.
On 30 August join Vincent Wildlife Trust as we learn about Pembrokeshire’s fascinating bat species.
From 5 September to 1 November, borrow an explorer backpack every day from the Welcome Centre and use what's inside to explore the nature at Colby.
Come to Colby on Saturday 5 September to see some old fashioned horse and carriages on the meadow.
Wedi’i lleoli mewn dyffryn cyfrin tawel mae’r ardd goedwig gudd hon gyda’i gorffennol diwydiannol cyfoethog yn llawn rhyfeddodau. Gyda'r gwanwyn y daw carpedi o flodau'r gog, crocysau, a chennin Pedr, ac yna taenfa o gamelias, rhododendron ac asaleas, cyn dyfodiad blodau'r enfys a blodau gwyllt yr haf. Dewch i grwydro'r coetir cysgodol, y dolydd blodau gwyllt a'r ardd furiog liwgar yn yr haf, a lliwiau rhyfeddol y coed erw, gwyros a choed gymwydd pêr yr hydref. Beth am archwilio'r ddôl gyda’i ffrwd hyfryd, cerrig camu, pont bren a bwrlwm o was y neidr a gloÿnnod byw. Gallwch adeiladu den yn y coed, coginio eich bwyd eich hun ar un o’n tanau gwersyll neu neu beth am ddod â phicnic, gadael i’r plant chwarae yn y ffrwd ac ymlacio am ychydig? Camwch yn ôl i'r gorffennol cyfrinachol, y bywyd gwyllt cudd a hanes cyfoethog yn y Bothy.
Ymhell cyn i’r ardd ymwreiddio, chwaraeodd ystâd Colby ran bwysig yn niwydiant glo Sir Benfro. Dysgwch fwy am yr ardd a bywydau ei thrigolion.

Dysgwch sut y cawn gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i adfer y coetiroedd gwyllt hyn.
Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu gyda’r gwahanol ardaloedd o’r ardd rydym yn gofalu amdanynt, sy’n golygu bod digon o rolau diddorol i’w hystyried.


Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.