
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.
Dilynwch y llwybr wedi’i ysbrydoli gan lên gwerin Cymru, rhowch gynnig ar y gweithgareddau a chwblhewch yr her o gwmpas y castell a’r ardd. Wnewch chi lwyddo i ddod o hyd i’r gadair aur gyda chymorth y tylwyth teg? Dewch i wrando ar straeon hudolus gan y storïwr Jake Evans a rhedeg yn wyllt yn yr ardal chwarae yn Home Farm.
Dilynwch y llwybr wedi’i ysbrydoli gan Ystafell y Llwythau yn Erddig i chwilio am greaduriaid hudol a bwystfilod dewr sy’n cuddio yn yr Arfbeisiau. Gwisgwch eich gwisgoedd Calan Gaeaf gorau ar 31 Hydref i ymuno â’r hwyl arswydus i’r teulu. Cofiwch ymweld â Ffau’r Blaidd, yr ardal chwarae naturiol.
Dewch i ddathlu’r tymor drwy ymuno ag Antur Fawr yr Hydref yng Nghastell Penrhyn. Ewch i’r ardd i gwblhau’r helfa sborion a chwilio am holl drysorau’r hydref. Helpwch y garddwyr i lenwi’r berfâu gyda dail sydd wedi cwympo, gwnewch goron o ddail a llosgi rhywfaint o egni yn yr ardaloedd chwarae naturiol.
Cerdded trwy ddail euraidd crensiog a sblasio mewn pyllau mwdlyd ar eich ffordd i ardal chwarae naturiol Coed y Llaethdy. Efallai y cewch gip ar wiwer goch ar hyd y ffordd! Eleni mae Plas Newydd yn cymryd rhan yn The Big Draw ar y thema ‘Darlunio Gyda'n Gilydd’. Dewch i gymryd rhan a bod yn greadigol yr hanner tymor hwn.
Ewch i’r berllan yr hanner tymor hwn i gymryd rhan yn y digwyddiad Anturiaethau’r Berllan. Bydd y gweithgareddau tymhorol yn cynnwys arddangosiadau pladuro a gwasgu afalau ar ddiwrnodau penodol. Rhowch gynnig ar gelf wyllt, chwarae gêm o OXO ar thema natur a herio eich hun ar y cwrs rhwystrau ymhlith yr afalau sydd wedi cwympo.
Bydd y llwybr rhyngweithiol i deuluoedd wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa awyr agored a chystadleuaeth Ffotograffydd Gerddi Rhyngwladol y Flwyddyn yn tanio dychymyg a chreadigrwydd y plant. Dewch i losgi rhywfaint o egni yn y ddrysfa helyg yn y Pen Pellaf, neidiwch dros gerrig sarn yn y Glyn a mwynhau’r llwybrau igam-ogam yn y parc chwarae.
Trwy gydol hanner tymor bydd cyfle i chwilio ym mhob twll a chornel o’r castell a’r gerddi i weld sawl pwmpen y gallwch ei gweld ar y llwybr pwmpenni Calan Gaeaf. Ewch i iard y castell gyda’r nos rhwng 31 Hydref a 2 Tachwedd i weld tafluniadau bwganllyd a goleuadau arswydus yn goleuo muriau’r castell.
Dilynwch y llwybr bwgan brain i archwilio’r stad amaethyddol hwn. Dewch i baratoi diod hudolus gwrach yn y gegin fwd neu ewch i’r bloc stablau i fwynhau’r ystafell chwarae. Cofiwch ddweud helo wrth yr anifeiliaid yn y buarth.
Ymwelwch ag unig gloddfa aur Rufeinig y DU. Ymunwch â thaith gerdded neu dilynwch y llwybr clywedol o amgylch iard y gloddfa i ddysgu rhagor am y Rhufeiniaid yn Sir Gaerfyrddin. Rhowch gynnig ar banio am aur ac archwiliwch arddangosiad ‘Trysorau Pumsaint’ yn y Ganolfan Faes, sy’n arddangos arteffactau 2,000 oed.
Dilynwch y llwybr hydrefol drwy’r ardd gyda Rhubi y coblyn Cymreig. Cewch fenthyg sach gefn archwiliwr neu synhwyraidd yn cynnwys yr holl offer sydd ei angen arnoch i gysylltu â natur wrth gerdded o amgylch yr ardd gyda’ch teulu. Mae digon o bethau i’w gwneud tu mewn i’r tŷ ar ddiwrnod glawog gyda thri llawr i’w harchwilio.
Ydych chi’n ddigon dewr i ddilyn y llwybr natur ‘wnei di fentro’ i ddarganfod y pryfed sy’n byw yn yr ardd? Ydych chi’n ddigon dewr i roi eich llaw yn y blwch? Ydych chi’n ddigon dewr i chwilio am y ysbrydion miltroediaid? Mae dwy ardal chwarae naturiol i redeg yn wyllt ynddynt hefyd.
Dewch i archwilio y tu mewn i Dŷ Newton sy’n llawn cysgodion mawr bendigedig sy’n gwneud iddi deimlo fel canol nos yng nghanol y dydd. Cewch wylio ffilmiau arswyd yn y seler gwrw, gwrando ar straeon yn yr ystafell gyfarch, tostio malws melys yn yr ardd ac ar 31 Hydref bydd disgo ffyn llachar i’w fwynhau.
Ailgysylltwch â natur dros yr hanner tymor hwn drwy adeiladu ffeuau, chwarae gêm o ffyn pooh, neidio dros gerrig camu, a chwilota pyllau. Gyda dolydd eang, nentydd araf, a llwybrau cerdded yn y goedwig, mae’r ardd hon yn ddelfrydol ar gyfer anturwyr ifanc.
Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.
Dysgwch am ein llwybrau aml-ddefnydd yn y mannau rydym yn gofalu amdanynt ledled Cymru sy’n addas ar gyfer pramiau ac yn berffaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai gyda chymorth symudedd.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.