Darganfyddwch fwy yn Stagbwll
Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Trysor o draeth ynysig gyda chefndir o dwyni tywod a choedwig dawel gysgodol gyda thywod aur byd-enwog a dŵr sy’n glir fel crisial
Cei Stagbwll, Stagbwll, Ger Penfro, Sir Benfro, SA71 5LS
Asset | Opening time |
---|---|
Barafundle Bay | Dawn - Dusk |
O dan reolaeth agos. Mae gan yr ystâd anifeiliaid fferm, merlod a bywyd gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, adar dŵr ac adar sy’n nythu ar y ddaear. Gofynnwn i chi gadw eich ci dan reolaeth agos ac ar dennyn os oes angen. Peidiwch â gadael eich anifail anwes yn y car.
Y toiledau agosaf yng Nghanolfan Stagbwll a meysydd parcio Cei Stagbwll 1/2 milltir i ffwrdd.
Talu ac arddangosfa agosaf yng Nghei Stagbwll ½ milltir i ffwrdd. Talu ac arddangos yn Ne Aberllydan, Pyllau Bosherston a Llys Stagbwll. Ni chaniateir bysiau, bysiau moethus a faniau gwersylla yng Nghei Stagbwll, De Aberllydan, Llys Bosherston na Llys Stagbwll oherwydd ffyrdd cul. Mae aelodau’r NT a deiliaid Bathodyn Glas yn cael parcio am ddim. Mae’r rhai nad ydynt yn aelodau yn talu: £7.00 y car drwy’r dydd, £10 i faniau gwersylla.
Mae ystafell de’r The Boathouse yng Nghei Stagbwll ½ milltir i ffwrdd ar droed ar hyd yr arfordir.
Mae mannau gwefru ceir trydan ym meysydd parcio Cei Stagbwll a Chanolfan Stagbwll.
Mae’r maes parcio agosaf ½ milltir i ffwrdd yng Nghei Stagbwll. Parcio bathodyn glas a thoiledau wedi’u haddasu ar gael yn y maes parcio. Mynediad dim ond ar droed ar hyd llwybr yr arfordir neu drwy Ystâd Stagbwll. Llwybr anwastad a thir garw. Mynediad at lwybr yr arfordir a llwybrau serth gyda stepiau. Anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn, cerbydau symudedd pŵer a phramiau neu os ydych yn ansad ar eich traed.
Yng Nghei Stagbwll
Llethr mynediad i ystafell de The Boat House yng Nghei Stagbwll.
Toiled hygyrch yng Nghanolfan Stagbwll a Chei Stagbwll 1/2 milltir i ffwrdd ar droed. Toiledau wedi’u haddasu gyda chanllawiau cydio ym mhob maes parcio. Mae gan y toiledau yn Bosherston a De Aberllydan fwy o le i symud, gyda mynediad allweddi Radar.
B4319 o Benfro i Stagbwll, Cei Stagbwll a Bosherston ar gyfer Ystâd Stagbwll (pwyntiau mynediad amrywiol i’r ystâd). Taith gerdded 1/2 milltir o Gei Stagbwll.
Parcio: Talu ac arddangos yng Nghei Stagbwll, De Aberllydan, Llyn Bosherston a safle Llys Stagbwll.
Sat Nav: Y maes parcio agosaf yw Cei Stagbwll: SA71 5LS. Cerdded ½ milltir o’r fan honno. Ar gyfer meysydd parcio Llynnoedd Bosherston a De Aberllydan: SA71 5DR, ar gyfer maes parcio Llys Stagbwll: SA71 5DE.
Dim ond ar droed y mae modd mynd i Fae Barafundle o unrhyw un o’r meysydd parcio ar Ystâd Stagbwll neu ar Lwybr Arfordir Sir Benfro. Grisiau a thir anwastad Anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn, cerbydau symudedd pŵer a phramiau neu os ydych yn ansad ar eich traed.
Yr orsaf drenau agosaf, Doc Penfro, 6 milltir. Tacsis ar gael. Cerdded o Ystâd Stagbwll.
387/8 (Gwibfws yr Arfordir) – Cychwyn yn Noc Penfro a Phenrhyn Angle. I weld y llwybrau bysiau a’r amserlenni, ewch i wefan Cyngor Sir Penfro
Mae’r fferi agosaf yn Noc Penfro, sydd 7.5 milltir i ffwrdd. Mae tacsis ar gael i’w harchebu ymlaen llaw.
Mae Stagbwll a’r ystâd ehangach yn lle sydd wedi ei raddio gan y system bawen. Mae rhagor o wybodaeth am ddod â’ch ci i Stagbwll. Archwiliwch y rhan brydferth hon o’r arfordir gyda’ch cyfaill pedair coes wrth eich ochr.
Darllenwch ganllaw hygyrchedd Stagbwll ar fenthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar symud o gwmpas, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.
Traeth tywod euraidd byd-enwog y gellir ei gyrraedd ar droed yn unig.
Rhan o Ystâd Stagbwll, 3,000 erw o dirwedd hanesyddol restredig Gradd 1 ar Arfordir Sir Benfro.
Gyda chefndir o dwyni tywod hardd a choedwig hynafol yn llawn garlleg a chlychau’r gog yn y gwanwyn.
Wedi’i leoli ar lwybr arfordir Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Deg bwthyn fferm a bythynnod gweithwyr wedi’u haddasu gyda llety hunanddarpar.
Amrywiaeth o dai bynciau, porthdai a bythynnod gwyliau sy’n addas ar gyfer grwpiau, teuluoedd, addysg, priodasau a digwyddiadau gyda dewisiadau hunan-arlwyo ac arlwyo.
Dewch i ddarganfod diwrnodau allan i’r teulu yn Stad Stagwbll yn cynnwys traethau, hanes a 3,000 acer o fywyd gwyllt rhyfeddol.
Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.
Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll.
Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.
Os hoffech daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ewch ar hyd llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.
Dysgwch am hanes y teulu Cawdor a mwynhau golygfeydd godidog ar lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll.
A semi-detached cottage close to beautiful Stackpole Quay with miles of coastal paths and beaches to explore.
Close to beautiful Stackpole, this large manor house in Pembrokeshire is great for a get-together.
A converted farm building on the Stackpole estate, close to the beautiful Welsh coastline with a shared garden.
A traditional farmhouse in the main courtyard at Stackpole with miles of coastal walks on the doorstep.
A large house in the heart of Stackpole, with walks from the doorstep in every direction.
Close to the coast in Stackpole, this little cottage is a great base for exploring the area.
A large house in the heart of Stackpole, with walks from the doorstep in every direction.
A short walk from golden beaches, this basic and comfortable lodge is great for exploring the Pembrokeshire coast and enjoying the county's many activities.
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Mae’r traeth cudd hardd hwn gyda thywod euraidd yn rhan o Ystâd ehangach Stagbwll, tirwedd dyluniedig rhestredig. Mae’r traeth wedi’i leoli rhwng clogwyni calchfaen gyda chefndir o dwyni tonnog sy’n arwain at goedwig gysgodol a hardd sy’n llawn bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn ac yn llawn garlleg a chlychau’r gog yn y gwanwyn. Arferai fod yn eiddo i deulu Cawdor ac yn anhygyrch i’r cyhoedd nes iddo ddod i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae’n drysor o draeth y gellir ei gyrraedd ar droed yn unig.
Camwch yn ôl drwy amser a datgelu canrifoedd o dreftadaeth ar draws Stad Stagbwll, o’r oes efydd hyd heddiw, ac am fywydau ei thrigolion.
Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.