Mae ein cymdogion, sef Canolfan Garddio Bodnant, yn gwerthu amrywiaeth o blanhigion sydd wedi’u tyfu o’r ardd - yr unig le sy’n gwneud hynny. Gallwch brynu sbesimen perffaith i fynd adref gyda chi fel y gallwch ei dyfu yn eich gardd a chofio am eich ymweliad am byth.
Canolfan Grefftau Bodnant
Wrth ymweld â’r Ganolfan Garddio cofiwch hefyd alw yn y Ganolfan Grefftau, sy’n arddangos sgiliau crefftwyr lleol ac yn gwerthu anrhegion a chofroddion unigryw. O durnio i ddyfrlliwiau mae yna amrywiaeth eang o grefftau i’w gweld.
Dalier sylw: Nid yw’r Ganolfan Arddio na’r Ganolfan Grefftau yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yna hefyd siop Edinburgh Wollen Mill nad yw’n gysylltiedig â’r Ymddiriedolaeth.