Gardd o’r radd flaenaf

Y ‘parterre’ yn y gwanwyn yng Ngardd Bodnant, Conwy

Yn swatio ar odre mynyddoedd Eryri yng Ngogledd Cymru, mae Gardd Bodnant yn ffrwyth gweledigaeth Fictoraidd un gŵr rhyfeddol. Mireiniwyd y weledigaeth honno gan ei ddisgynyddion a heddiw mae’r ardd yn annwyl i ymwelwyr o bob rhan o’r byd.

Wedi ei leoli ar ochr y bryn mae’r ardd 32 hectar o faint (80 erw) yn disgyn yn ddramatig o lawntiau taclus a therasau crand, llawn blodau, drwy ddolydd o flodau a bywyd gwyllt a llennyrch sy’n llawn llwyni, i’r glynnoedd dramatig lle ceir gerddi dŵr a choed anferthol.
 
Sefydlwyd yr ardd yn 1874 gan Henry Pochin, gwyddonydd, gŵr busnes a gwleidydd. Aeth ef a’i deulu ati i lenwi’r ardd â phlanhigion a gasglwyd gan fforwyr byd-enwog fel Ernest Wilson, George Forrest a Harold Comber. Heddiw mae’r ardd yn gartref i blanhigion o bob math, o’r Pabi Glas Himalaiaidd i lwyni fflamgoch yr Andes (Embothrium Coccineum), yn ogystal â phum Casgliad Cenedlaethol a chasgliad mwyaf Cymru o Bencampwyr Coed y Deyrnas Unedig, sy’n rhoi gwledd i’r llygaid ar hyd y flwyddyn.
 

Gardd ar gyfer pob tymor

Yn y gwanwyn mwynhewch y rhesi o gennin pedr, camellias, magnolias a rhododendrons; yn yr haf dewch i weld y rhosod, pyllau lili, gwelyau o blanhigion parhaol a dolydd blodau gwyllt sy’n sïo â bywyd gwyllt; yn yr hydref mae’r dail yn enfys o liwiau cyfoethog; a rhyfeddwch at y tirweddau disglair, barugog yn y gaeaf.
 
Mae Gardd Bodnant wedi bod yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er 1949, ac mae’n ardd sydd wedi torri tir newydd ar hyd y blynyddoedd – dyma gartref y bwa tresi aur cynharaf a harddaf, magnolias cynharaf Prydain, a’r rhododendrons croesryw unigryw a gafodd eu meithrin yma. 
 
Dyma ardd sy’n newid ac yn addasu drwy’r amser. Er 2012, mae dros 20 erw o dir a fu gynt yn breifat wedi eu hagor i’r cyhoedd, ac wrth i’r garddwyr barhau â’u gwaith adnewyddu bydd llawer mwy i weld yn y blynyddoedd i ddod …