Mae gwirfoddolwyr yr ardd wedi chwarae rhan enfawr yn y gwaith o adfer ac agor ardaloedd newydd o’r ardd i’r cyhoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel Glyn yr Ywen, y Pen Draw ac, yn fwy diweddar, Coed a Gweirglodd y Ffwrnais yn ystod y gwanwyn 2017.
Yn ogystal â chael cyfle i weithio ym mhrydferthwch un o erddi enwocaf Prydain, fel gwirfoddolwr rydych hefyd yn cael mynediad am ddim i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Deyrnas Unedig a cherdyn arbennig i gael gostyngiad yn siopau’r Ymddiriedolaeth. Bydd cyfle i chi ddod i gyfarfodydd rheolaidd a chwarae rhan lawn yn y gwaith cynllunio – ac wrth gwrs, cewch wahoddiad i barti Nadolig y ‘swyddfa’!
Os allwch gynnig help llaw am gyfnod penodol fel yn ystod y gwyliau neu ddyddiau rheolaidd bob wythnos, byddem yn falch iawn i glywed gennych. Bydd ein cydlynydd gwirfoddolwyr, a gweddill y tîm yma yng Ngardd Bodnant, yn cynnig hyfforddiant a chymorth i chi. I gael mwy o fanylion, ffoniwch y gweinyddydd eiddo Rose James yma yng Ngardd Bodnant ar 01492 650460.