Daw myfyrwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt i hyfforddi gyda’r tîm yng Ngardd Bodnant, gan ennill cymwysterau academaidd a sgiliau ymarferol.
Mae’r ardd yn croesawu myfyrwyr o bob oed a chefndir i helpu gyda phob agwedd ar y gwaith bob dydd, ac maen nhw’n bob amser yn barod i dorchi llewys. Dros y blynyddoedd mae’r ardd wedi swyno llawer ohonyn nhw ac mae rhai wedi dychwelyd yma’n ddiweddarach i weithio fel garddwyr cymwysedig – gan gynnwys ein gyn-brif arddwr Troy Smith.
Rydym yn recriwtio myfyriwr bob blwyddyn mewn partneriaeth gyda’r Rhaglen Hyfforddiant Gerddi Hanesyddol a Botanegol (HBGTP). O dan y cynllun hwn, sy’n cael ei reoli gan English Heritage a’i gefnogi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gall myfyrwyr ennill cyflog yn ogystal â datblygu eu sgiliau proffesiynol yn rhai o brif erddi Prydain.
Tîm profiadol
Mae garddwyr dan hyfforddiant yn dysgu wrth draed ein tîm o arbenigwyr ac mae llawer ohonyn nhw wedi mynd ymlaen i gael swyddi parhaol yma ac mewn gerddi eraill. Rydym yn rhwan recriwtio garddwyr ar gyfer cynllun hyfforddi 2020. Darganfyddwch y manylion yma http://hbgtp.org.uk/ a gwnewch gais erbyn diwedd mis Mawrth.
Rydym hefyd yn croesawu myfyrwyr sy’n chwilio am leoliadau tymor byr, ac wrth gwrs mae gwirfoddoli yn yr ardd yn ffordd dda arall i ymuno â’r tîm ac ennill profiad. Os oes gennych ddiddordeb yng nghynllun hyfforddiant 2018 neu os hoffech wybod mwy am sut i gael profiad gwaith yn yr ardd, ffoniwch ein swyddfa’r ardd ar 01492 650460.