
Yma yng Ngardd Bodnant mae ein tîm yn paratoi bwyd lleol, tymhorol bob dydd a hefyd yn paratoi bwydlenni arbennig drwy’r flwyddyn.
Eleni enillodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Wobr Efydd ‘Gweinir Bwyd am Oes Yma’ / ‘Food For Life Served Here’ a gyflwynir gan Gymdeithas y Pridd. Mae’r wobr yn cydnabod ein hymrwymiad i weini bwyd lleol a gonest gan ddefnyddio cynhwysion moesegol a chynaliadwy.
Ystafell De’r Pafiliwn
Mae Ystafell De'r Pafiliwn, sydd wedi’i lleoli yn gyfleus yn y maes parcio, yn cynnig dewis o ddiodydd, teisennau, byrbrydau a phrydau cynnes. Gyda rhywbeth i demtio’r rhan fwyaf o’r ymwelwyr, hwn fel arfer yw’r man galw cyntaf ar ôl cyrraedd, neu’r lle olaf cyn gadael. Mae prydau blasus wedi'u paratoi'n ffres ar y diwrnod: Ar agor o Ebrill i Hydref 9 am-5pm a Tachwedd i Fawrth 10 am-4pm.
Ystafell De Magnolia
Ar agor 11 am-4pm trwy gydol y flwyddyn, mae Ystafell De Magnolia, sy’n llai o faint, wedi ei lleoli yn y ganolfan arddio, gerllaw allanfa’r ardd. Dyma’r lle perffaith i fwynhau diod a byrbryd, neu de prynhawn. Gyda digonedd o le i eistedd y tu mewn a thu allan, mae’n fan bach cyfleus i ymlacio ym mhob tywydd. Mae’n rhannu iard brydferth gyda siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae yna ddigonedd o blanhigion trawiadol ar werth gan ein cymydog yng Nghanolfan Arddio Bodnant. Yn Ystafell De Magnolia hefyd mae ein stondin lyfrau ail-law.
Ciosg y Glyn
Mae Ciosg y Glyn yn cynnig byrbrydau a diodydd, bob dydd rhwng y Pasg a Chalan Gaeaf 11am-4pm, ar benwythnosau yn unig rhwng mis Tachwedd a Chwefror 11am-3pm. Beth am brynu byrbryd i’w fwynhau wrth eistedd ar un o’r meinciau (neu hyd yn oed o flaen y tân yn y gaeaf) neu i fynd gyda chi wrth i chi ymlwybro o amgylch yr ardd.
Mae ein tîm arlwyo arobryn bob amser yn brysur yn paratoi danteithion tymhorol ar gyfer ymwelwyr, o fwydlenni sy’n newid bob mis i ddigwyddiadau arbennig. Cadwch lygad ar ein hadran ddigwyddiadau i weld ein dewis o ddanteithion tymhorol.