Menywod Bodnant – Y Frwydr Hir

Agnes Pochin, Laura McLaren and Priscilla Bright-McLaren

Y tu hwnt i’r gerddi taclus a’r terasau blodau hardd yng Ngardd Bodnant mae hanes menywod pwerus oedd yn cael ei gyrru gan wleidyddiaeth. Yn 2018 rydym yn nodi canrif ers i fenywod gael y bleidlais drwy dynnu sylw at eu stori nhw.

Un oedd ar flaen y gad yn y frwydr hon oedd Laura McLaren, a etifeddodd yr ardd a’r stad yn 1895. Roedd Laura yn dipyn o ddynes; nid yn unig roedd hi’n arddwraig flaenllaw ond roedd hi hefyd yn wraig fusnes alluog, yn ymgyrchydd gwleidyddol ac yn ganolog yn y frwydr am bleidlais i ferched.

O oedran ifanc roedd Laura yn helpu ei thad i reoli Stad Bodnant a llunio’r ardd; hi greodd y Pen Draw yn 1899 a gweithio gyda’i mab Henry McLaren i ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer y Terasau Eidalaidd yn y cyfnod Edwardaidd. Yn y blynyddoedd diweddarach aeth ymlaen i ennill Medal Anrhydedd RHS Victoria.

Ymgyrchu gwleidyddol

O’i chartref yn Llundain fe aeth ati hefyd i ymgyrchu’n wleidyddol gan wasanaethu’r National Society of Women's Suffrage drwy ddarlithio, sgrifennu pamffledi a cheisio ennill cefnogaeth y llywodraeth. Yn 1909 fe gynhyrchodd The Women's Charter of Rights and Liberties ar ran y Gymdeithas Ryngwladol dros y Bleidlais i Fenywod gan chwarae rhan allweddol yn natblygiad Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918.

Roedd mam Laura, Agnes Heap, yn un o’r arloeswyr dros y bleidlais i ferched; yn 1855 fe dorrodd dir newydd pan gyhoeddodd Right of Women to Exercise the Elective Franchise. Roedd mam-yng-nghyfraith Laura, Priscilla Bright-McLaren hefyd yn arwain ymgyrchoedd cynnar yn erbyn caethwasiaeth a thros hawliau menywod.

Ganrif yn ddiweddarach, yn y cartref teuluol yng Ngardd Bodnant, rydym yn dathlu gwaddol rhyfeddol Laura, Agnes a Priscilla, i arddwriaeth ac i achos menywod, gydag arddangosfa a chyfres o ddigwyddiadau yn yr hydref.