Mae pawb eisiau i’w priodas fod yn ddiwrnod i’w gofio. Gall lleoliad hyfryd yr ardd eich helpu i greu atgofion i’w trysori am byth ar ddydd eich priodas.
I'ch helpu chi i ddechrau cynllunio'ch diwrnod arbennig, estynnwn wahoddiad cynnes i gyplau i arddangosfa briodasau ar 14 Medi, 2019, 1am-3pm.
Gallwch weld y lleoliad, cyfarfod â’n tîm priodasau a thrafod eich cynlluniau. Mynnwch olwg hamddenol ar adeilad Sioraidd y Felin Binnau lle cynhelir seremonïau ac archwiliwch leoliad hudolus Teras y Gamlas, ei bwll addurniadol a’i erddi ffurfiol; mwynhewch ganapés a diodydd swigod i gyfeiliant y telynor o Gymro, Dylan Cernyw, a fydd yn chwarae yn y digwyddiad arbennig hwn.
Lle arbennig
Mae Gardd Bodnant yn cynnal seremonïau rhwng Mai a Medi ac fe’ch sicrheir y byddwch yn cefnogi cadwraeth yr ardd fyd enwog hon wrth ein dewis ni ar gyfer eich seremoni.
Mae’r Felin Binnau ar Deras y Gamlas yn lleoliad perffaith ar gyfer seremoni sifil. Gydag awyrgylch hamddenol ac ychydig o ffurfioldeb hefyd, bydd y lleoliad a’r awyrgylch yn gwneud eich diwrnod yn un arbennig iawn. Ar ôl y seremoni ffurfiol, gallwch fwynhau gwydriad o siampên ar y teras gyda’ch gwesteion, tra bod eich ffotograffydd yn tynnu lluniau unigryw ac arbennig.
Dywedodd Ailsa Morris, Rheolwr Priodasau: “Mae hi bob amser yn bleser treulio amser gyda’r cyplau yn trefnu eu diwrnod priodas. Mae gwybod eich bod wedi chwarae rhan mewn achlysur mor arbennig yn destun balchder aruthrol i ni. Boed yn chwilio am gynnal seremoni bersonol neu ddigwyddiad mawr teuluol, gallwn eich helpu ar bob cam. Does yna ddim lle harddach i briodi yn fy marn i.”
Ffoniwch Ailsa ar 01492 651924 er mwyn archebu eich lle ar ein diwrnod arddangos priodasau. Darllen ein pamffled Priodi yng Ngardd Bodnant (PDF / 1.025390625MB) download neu am fwy o fanylion cysylltwch â ni yn http://bodnantweddings@nationaltrust.org.uk

Martin Vaughan