Teulu’r McLaren o Ardd Bodnant

Laura and Charles McLaren of Bodnant Garden

Fel plant i ymgyrchwyr, roedd Laura Pochin a Charles McLaren yn gyfarwydd â syniadau am hawliau menywod o oedran cynnar. Pan briodon nhw yn 1877 daeth y teulu estynedig Bright-McLaren-Pochin i fod yn rym dylanwadol iawn yn y cyfnod Fictoraidd hwyr a’r oes Edwardaidd.

Ysbrydolwyd Laura gan weledigaeth ei mam. Ymrwymodd ei hunan i’r dasg o sgwennu, siarad yn gyhoeddus a lobïo’r Senedd er mwyn ennill yr hawl i fenywod bleidleisio. Bu’n weithgar gyda’r London National Society of Women’s Suffrage, y National Union of Women’s Suffrage Societies ac roedd yn llywydd y Women’s Liberal Federation.

Roedd Charles Benjamin Bright McLaren (1850-1934) yn newyddiadurwr cyn dod yn fargyfreithiwr. O 1880 ymlaen roedd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Staffod, yna Bosworth, ac yn 1897 penodwyd ef yn Gwnsler y Frenhines a chafodd y teitl Aglwydd Aberconwy yn 1902. Pan oedd yn Aelod Seneddol, a thrwy gydol ei fywyd, roedd Charles yn llwyr gefnogol i’r ymgyrch i roi pleidlais i fenywod ac i ddynion dosbarth gweithiol. Byddai’n ategu’r dadleuon a gyflwynai ei wraig mewn areithiau a llythyron pan yn siarad gyda dynion eraill yn y senedd.

Y teulu cyfan

Brawd Charles oedd Walter Stowe Bright McLaren (1853-1912) ac roedd yntau’n Aelod Seneddol dros Crewe ac yn ymgyrchu dros etholfraint gyda’i  wraig Eva. Gyda’i gilydd roedden nhw’n dîm pwerus yn y frwydr dros gydraddoldeb. Roedd chwaer Charles, Helen Priscilla McLaren (1851-1934), yn ffilanthropydd ac yn ymgyrchydd dros wella iechyd, dros wella bywydau menywod a thros newid gwleidyddol.

Cadwyd y fflam yn fyw gan blant Laura a Charles. Roedd Henry Duncan McLaren (1879-1953) yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros orllewin swydd Stafford a Bosworth ac yn Is-Ysgrifennydd Preifat i Lywydd y Bwrdd Masnach, David Lloyd George, tan 1908. Roedd yntau hefyd yn gefnogol i hawliau menywod.

Cafodd y mab ieuengaf, Francis McLaren (1886-1917) ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Spalding yn 1910. Roedd yn wleidydd ifanc addawol ac yn beilot yn y Rhyfel Mawr. Cafodd ei ladd mewn damwain awyren yn 1917.

Roedd Florence McLaren (Y Fonesig Norman 1883-1964) yn etholfreintwraig frwd fel ei mam a’i neiniau. Bu’n drysorydd i’r Liberal Women’s Suffrage Union. Roedd hi hefyd yn dotio ar arddwriaeth, fel ei chwaer Elsie McLaren (y Fonesig Johnson Ferguson 1884-1973)  a bu’n gyfrifol am ddatblygu’r gerddi yn Ramster Hall, swydd Surrey.

Wedi i’r ddeddf ‘Representation of the People’ ddod i rym yn 1918 daliodd y teulu i ymgyrchu er mwyn i bob menyw gael yr hawl i bleidleisio. Digwyddodd hyn yn 1928. Mae ymdrech unedig y teulu yn cael ei goffáu yng Ngardd Bodnant heddiw; mewn cofeb i aelodau’r teulu yn adeilad ‘The Poem’, ac yn y penddelw o Walter McLaren ar y terasau gorllewinol.