
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Mae Tŷ hanesyddol Newton wedi'i amgylchynu gan Warchodfa Natur Genedlaethol a Pharc Ceirw tirweddol o'r 18fed ganrif.
Parc Dinefwr, Tŷ Newton, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6RT
Asset | Opening time |
---|---|
Tŷ Newton, gardd & caffi | 10:30 - 16:30 |
Parcdir a’r Maes Parcio | 10:00 - 17:00 |
Castell Dinefwr | 10:00 - 17:00 |
Parc Ceirw | 10:00 - 17:00 |
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
£5.00 |
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
Oedolyn (18+) | £12.10 | £11.00 |
Plentyn (5-17) dan 5 am ddim | £6.10 | £5.50 |
Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) | £30.30 | £27.50 |
Teulu (un oedolyn) | £18.20 | £16.50 |
Er mwynhad pob ymwelydd gofynnir i chi gadw cŵn ar dennyn pob amser, gan sicrhau fod gwastraff cŵn yn cael ei roi mewn bag ac yn y bin pwrpasol. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar lawr gwaelod y tŷ. Efallai y bydd rhaid i ni gyfyngu'r nifer o gŵn yn y tŷ ar yr un pryd.
Mae siop lyfrau ail law ar lawr gwaelod Tŷ Newton.
Mae toiled wedi'i addasu ar gael ger yr hen Ganolfan Groeso, y caffi tecawe nawr yn y maes parcio. Cyfleusterau newid babi yma hefyd.
Parcio Bathodyn Glas, tai bach hygyrch, llwybrau cerdded hygyrch dynodedig, rhywfaint o dir anwastad.
Mae llwybr bordiau gwastad i Bwll y Felin, plis nodwch nad yw'r holl lwybrau o gwmpas yr ystad yn wastad.
Mae'r lifft allan o ddefnydd. Mae mynediad gwastad a llawr gwaelod y Tŷ Newton drwy'r prif ddrws. Mae dau set o risiau pren i gyrraedd y llawr cyntaf a'r islawr ar hyn o bryd. Ry' ni'n ymddiheuro'n ofnadwy am unrhyw anghyfleuster all hyn achosi.
Safleoedd parcio hygyrch ar gael ger yr hen Ganolfan Groeso.
Maes parcio - what3words: ///diffwdan.bonheddig.ymylon
Mae’r cod post yn mynd â chi i’r lleoliad anghywir. Chwiliwch am ‘National Trust Dinefwr’ ar y map neu dilynwch yr arwyddion deilen dderw brown. Os yn trafaeilio o'r dwyrain neu'r gorllewin o Ddinefwr, defnyddiwch yr A40 i Landeilo neu'r A483 os yn trafaeilio o Abertawe.
Parcio: Nodwch fod pellter tua 50 llath o'r maes parcio i Dŷ Newton.
Sat Nav: Mae’r cod post yn mynd â chi i’r lleoliad anghywir. What3Words: Compelled : Trailer : Park
Yr orsaf drenau agosaf yw Llandeilo, sydd 1.5 milltir o Barc Dinefwr. Mae Lein Calon Cymru yn rhedeg i’r de i Abertawe, neu i’r gogledd i’r Amwythig. Mae amserlenni’n gyfyngedig, felly gwiriwch ar-lein cyn ichi deithio.
Cymerwch gip ar www.traveline.cymru i weld yr amserlenni diweddaraf. Y safle bws agosaf at Barc Dinefwr yw Ffordd Caerfyrddin, Llandeilo.
Parc Dinefwr, Tŷ Newton, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6RT
Mae rhywbeth i’w wneud bob amser yn Dinefwr, waeth beth fo’r tywydd. Archwiliwch ystafelloedd y tŷ, dewch i weld beth sy’n newydd yn yr Iard Dderw, mwynhewch ginio yn y caffi, ewch am dro o amgylch y parcdir a’r coetiroedd Cymreig hynafol, neu os ydych chi’n teimlo’n egnïol, ewch i weld adfeilion urddasol Castell Dinefwr.
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Ninefwr. Croesawir cŵn drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi eu harchwilio.
Maenordy o’r ail ganrif ar bymtheg yw Tŷ Newton; gofod ar gyfer arddangosfeydd a chreadigrwydd gyfoes sy’n adlewyrchu gwahanol agweddau ar fywyd yn Dinefwr dros y canrifoedd. Mae’n arwain at yr Ardd Ffownten a’r golygfeydd draw dros y Parc Ceirw.
Dros 800 acer o barcdir, dolydd a choetiroedd, Parc Ceirw canoloesol gyda llwybr bordiau hygyrch ac amryw o goed hynafol.
O fewn Tŷ Newton, ar y llawr gwaelod, yn gweini diodydd, cawl, brechdanau a chacennau. Cewch hyd i’r caffi tecawê ar ymyl y maes parcio yn gweini diodydd a byrbrydau i fynd.
Mae castell trawiadol Dinefwr yn dyddio i’r ddeuddegfed ganrif; castell hollbwysig yn hanes Cymru fel canolfan yr Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus y Deheubarth. O dan ofal Cadw.
Ardal chwarae yn yr iard i’r teulu cyfan, lle i’r dychymyg grwydro gyda’r chwarae dŵr; yn Sied Dwt neu fynd ati i greu perfformiadau ar y llwyfan.
Rhaglen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol o flwyddyn o Sgyrsiau Sadwrn i weithgareddau teuluol yn ystod y gwyliau, mae rhywbeth i bawb yn Dinefwr.
Pa gyfrinachau sydd gan Dŷ Newton i'w datgelu? Pwy oedd yn byw yma? Beth sy'n cuddio yn y darluniau? Ymunwch a'r Tîm Croeso am daith awr o amgylch Tŷ Newton. Yn ystod y daith cewch blymio i ddyfnderoedd hanes Dinefwr gan ddarganfod mwy am y bobl wnaeth lunio'r lle rhyfeddol hyn. Bob Dydd Mawrth a Dydd Iau o'r 17 Mehefin - 25 Medi.
Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.
Daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer yr arddangosfeydd o weledigaeth y nawfed Arglwydd Dinefwr i sefydlu rhaglen gelfyddydol yn y chwedegau.
Mae rhywbeth i’w wneud bob amser yn Dinefwr, waeth beth fo’r tywydd. Archwiliwch ystafelloedd y tŷ, dewch i weld beth sy’n newydd yn yr Iard Dderw, mwynhewch ginio yn y caffi, ewch am dro o amgylch y parcdir a’r coetiroedd Cymreig hynafol, neu os ydych chi’n teimlo’n egnïol, ewch i weld adfeilion urddasol Castell Dinefwr.
Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.
Dewch i eistedd yng nghaffi dan do Tŷ Newton a mwynhewch amrywiaeth eang o fwydydd poeth ac oer, cacennau a hufen iâ. Yn y maes parcio, mae’r caffi awyr agored “Rydych Chi Yma” yn lle cyfleus i gael diodydd a byrbrydau tecawê, cyn mynd am dro neu wylio Gwartheg Gwyn y Parc.
Cerddwch wrth ymyl coed hynafol hanesyddol ar gylchdaith drwy dirwedd a ddyluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown, gyda chyfle i weld yr hyddod brith sy’n byw yma.
Mae llwybr Trwyn Ragwen yn daith gerdded ar hyd y clogwyni at fae anghysbell gyda golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.
Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.
A traditional farmhouse with wooden floors, and a log burner on the beautiful Dinefwr Park.
Nestled on the edge of the Dinefwr Park Estate with a gorgeous garden overlooking the valley, Penparc is a fabulous base for exploring the Welsh countryside
Sitting within Dinefwr Park estate, Cariad Cottage is cosy and packed with charm and character.
Pa gyfrinachau sydd gan Tŷ Newton i’w ddatgelu? Pwy oedd yn byw yma? Beth sy'n cuddio yn y darluniau? Dewch i ddarganfod mwy! **** What secrets does Newton House have? Who lived here? What's concealed in the paintings? Come and discover more!
Ymunwch a’r mes bach, grwp i bobl ifanc gwrdd unwaith y mis yn Dinefwr | Join the Young Oaks at Dinefwr, a youth group for those wanting to get stuck in. Come and hang out, share your best ideas and do things that really matter.
A tantalising Australian/Welsh Flute and Guitar Duo with a spectacular programme for their Llandeilo Fawr Festival Debut. This is an externally organised event, hosted in the Dining Room of Newton House.
Treuliwch y dydd yn Dinefwr gyda'r teulu yr haf hwn - bydd rhywbeth i bawb fwynhau | Spend the day with the family at Dinefwr this summer - there'll be something for everyone to enjoy
Gweithiwch gyda'r artist arbennig Lucy Donad i greu mwgwd anhygoel - anifail, trychfil neu greadur chwedlonol, mae lan i chi. **** Come and work with artist Lucy Donald to make an amazing mask! Animal, insect or mythical creature, it's up to you.
Yn aml mae brwydyr yn rhwng y cacwn a'n hufen iâ - ond beth yw eu gwir stori? ** In summer you'll often see a wasp swatting dance whilst trying to enjoy ice cream, but what do wasps really mean to you? Friendly pollinator, or ice cream stealing foe?
Dewch i greu rhywbeth bendigedig gyda'r artist Heidi Baker mewn gweithdy ym Mharc Ceirw Dinefwr **** Come and make something beautiful! Work with artists Heidi Baker and Heidi Plant to learn how to screen print, and walk away with something special.
Chwedlau, llên gwerin a hyd. Dewch i'r Parc Ceirw i fwynhau straeon, cyfrinachau a cymaint mwy. **** Folklore, myths, and magic. Join us in the mystical Deer Park for stories, secrets and so much more.
Yn dir hudolus o rym a dylanwad ers dros 2,000 o flynyddoedd, mae Dinefwr yn lleoliad eiconig yn hanes Cymru. Mae dwy gaer ar y safle sy'n dystiolaeth o bresenoldeb Rhufeinig cryf. Roedd y pwerus Arglwydd Rhys yn arwain o Ddinefwr a dylanwadodd ar benderfyniadau yng Nghymru.
Yn sefyll yn llawn balchder yng nghanol yr ystâd mae Tŷ Newton, cartref teuluol am dros dri chan mlynedd i ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus Teyrnas Gymreig y Deheubarth.
Dyluniwyd y dirwedd 18fed ganrif odidog, a amddiffynnir fel parcdir Gwarchodfa Natur Genedlaethol, gan y gweledyddion, George a Cecil Rice. O ddolydd llawn blodau i goetir trwchus hynafol, mae’r cyfan yma i chi ei ddarganfod.
“If you take a handful of the soil of Dinefwr and squeeze it in your hand, the juice that will flow from your hands is the essence of Wales” Wynford Vaughan Thomas
Ar y safle hefyd mae Castell Dinefwr, sy’n cael ei reoli gan Cadw (gweler y wefan) ac yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Natur.
Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Dinefwr ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Dinefwr.
Gwyliwch y dathliad bywiog yn Dinefwr fu'n dod a'r gymuned at ei gilydd wrth ddathlu dechrau'r gwanwyn.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.