Dewch i ddarganfod Gwlad o Gewri yng Ngardd Bodnant

Ymwelwyr yn edrych i fyny ar y coed tal yng Ngardd Bodnant

Mae Gardd Bodnant yn adnabyddus am ei phlanhigion, sy’n dod o bob cwr o’r byd, ac am ein casgliad enwog o goed.

Fe wnaeth arolwg diweddar gan y Gofrestr Goed ddarganfod bod yr ardd yn gartref i 40 o Bencampwyr Coed Prydain – yr enghreifftiau gorau o’u math – a 130 o Bencampwyr Coed Cymru, y nifer mwyaf yng Nghymru ochr yn ochr â Pharc a Gardd Goed Bute yng Nghaerdydd.

Yn ôl y Prif Arddwr John Rippin: “Mae coed yn ddiffinio’r dirwedd yng Ngardd Bodnant. Mae ein casgliad dros ddwy ganrif oed ac mae gennym arddwyr a thyfwyr coed arbenigol sy’n edrych ar eu hôl. Mae’n wych gwybod bod rhai o’r coed hynaf, mwyaf a phrinnaf sydd yn ein gofal yn ffynnu.”
 

Yr Hen Barc yng Ngardd Bodnant
Golygfa dros yr Hen Barc yng Ngardd Bodnant i'r coed hydrefol a'r mynyddoedd tu-hwnt

Mae stori Gardd Bodnant yn mynd yn ôl i’r cyfnod Sioraidd pan gyflwynwyd y coed ffawydd cyntaf – coeden ddigon prin yng Nghymru ar y pryd. Cawson nhw eu plannu ynghyd â choed derw, coed sycamorwydd a choed castan fel rhan o’r gwaith tirlunio cyntaf o amgylch Neuadd Bodnant yn y 1790au.

Daeth y cam plannu coed nesaf, a’r cam mwyaf, yn ystod y cyfnod Fictoraidd o dan ofal Henry Pochin, a brynodd ystad Bodnant yn 1874. Datblygodd Pochin y binwyddlan yng ngardd y dyffryn, gan blannu conwydd Americanaidd a dwyreiniol ar hyd lannau afon Hiraethlyn.

Ffynnodd y coed newydd hyn ar lannau gwlyb glynnoedd Bodnant; roedd digon o gysgod yno rhag yr elfennau ac ymestynnodd y coed i gyfeiriad y golau. Ymhlith rhai o’r Pencampwyr sydd i’w gweld yma mae’r Sequoiadendron giganteum ‘Pendulum’ (Cochwydden Gawraidd) 35m a blannwyd yn 1890 a Sciadopitys verticillata (Pinwydden Ymbarél Japaneaidd). Credir bod y goeden 20m hon yn tarddu o un planhigion a gafodd ei gyflwyno i Brydain gan Thomas Lobb yn 1853. 

Y Llyn Sglefrio a'r Tŷ Cychod yn Y Pen Pellaf, Gardd Bodnant; cartref i nifer o goed conwydd a choed Americanaidd llydanddail o Asia
Adlewyrchiadau'r coed hydrefol yn y llyn yng Ngardd Bodnant

Cartref i goed egsotig

Cafwyd cyfnod prysur arall o blannu coed ar ddechrau’r 1900au o dan oruchwyliaeth merch Pochin, Laura McLaren a’i ŵyr Henry McLaren, a ychwanegodd y coed Asiaidd llydanddail sydd i’w gweld ar draws yr ardd, gan gynnwys magnolias, acers a choed ceirios blodeuol o Tseina a Japan. Mae sawl Pencampwr yn y Llennyrch gan gynnwys Sorbus meliosmifolia ac Acer mandshuricum (Masarnen Manshwria) dwy goeden sydd yn brin ym Mhrydain, a dyfwyd o had a gasglwyd gan y casglwr planhigion Ernest Wilson yn y cyfnod Edwardaidd.

Mae ein casgliad yn cynnwys llawer o gonwydd a choed bytholwyrdd, coed sy’n blodeuo yn y gwanwyn a choed eraill y mae eu dail yn goelcerth o liw yn yr hydref, gan gynnig sioe wych ar hyd y flwyddyn. Dewch i chwilio amdanyn nhw gan ddefnyddio ein map Pencampwyr Coed, sydd ar gael yn y dderbynfa – neu gallwch ei lawrlwytho yma: 

Lawrlwythiad Pencampwyr Coed Gardd Bodnant (PDF / 2.7MB)

" Rwyf yn hoffi meddwl y bydd cewri Gardd Bodnant yn dal yma ymhen 200 mlynedd, yn cynnig golygfa a fydd hyd yn oed yn fwy syfrdanol i ymwelwyr y dyfodol ac yn helpu i warchod rhai o goed mwyaf anhygoel y byd."
- John Rippin, Prif Arddwr Gardd Bodnant