
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Gardd fyd enwog, yn gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed Campus.
Gardd Bodnant, Tal-y-Cafn, ger Bae Colwyn, Conwy, LL28 5RE
Asset | Opening time |
---|---|
Gardd | 09:30 - 17:00 |
Ystafell de | 09:00 - 17:00 |
Mynediad olaf i'r ardd hanner awr cyn amser cau.
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
Oedolyn (18+) | £19.80 | £18.00 |
Plentyn (5-17) dan 5 am ddim | £9.90 | £9.00 |
Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) | £49.50 | £45.00 |
I oedolyn, 3 o blant | £29.70 | £27.00 |
Caffi Magnolia gyferbyn ag allanfa. Diodydd poeth ac oer, prydiau ysgafn a chacennau. Seti tu fewn a thu allan.
Wedi ei leoli i lawr yn y Glyn. Ar agor penwythnosau yn ystod y gaeaf. Diodydd poeth ac oer a byrbrydau. Seti tu allan yn unig.
Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau i ddydd Sul o 1 Ebrill tan ddiwedd mis Medi, a bob dydd o fis Hydref i ddiwedd mis Mawrth.
Dim yn rhan o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Tu allan i'r ardd, cyfagos i'r allanfa.
Dim yn rhan o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gyferbyn a'r fynedfa i'r ardd.
Siop lyfrau ail-law. Gyferbyn â Chaffi Magnolia.
Yn y maes parcio, canolfan garddio ac i lawr yn y Glyn (Dell).
Ystafell te'r Pafiliwn. Mae bwydlen o brydau ysgafn poeth ac oer, cinio, cacennau, pasteiod a diodydd ar gael o'r Pafiliwn ac ystafelloedd te Magnolia. Seti tu mewn a thu allan.
Er mwyn cyfieithu’r dudalen we AccessAble i’r Gymraeg, cliciwch y botwm ar y dde uchaf gyda’r label “Accessibility”. Dewiswch “newid iaith” ac o’r rhestr o ddewisiadau dewiswch “Welsh/Cymraeg”. Ar ôl i chi osod eich dewisiadau Recite Me bydd y safle AccessAble yn cofio eich gosodiadau pan fyddwch arno yn y dyfodol.
Mae cadair olwyn â llaw a cherddwyr 2 olwyn ar gael o'r maes parcio ar sail y cyntaf i'r felin. Mae 'treic mynydd' (MT Push) ar gael o'r ganolfan ymwelwyr.
Mae rhai llwybrau serth yn yr ardd. Mae llawer o risiau o fewn yr ardd, ac mae modd osgoi'r cwbl. Gofynnwch am fap mynediad yn y dderbynfa i ymwelwyr. Mae rhai grisiau â chanllaw, nid oes gan y grisiau cerrig hanesyddol ganllaw
Taith gerdded rhosyn: 1.5km Dewch i weld y gerddi ffurfiol gyda golygfeydd godidog ar draws y dyffryn ac i lawr at yr afon wrth osgoi pob gris. Nodwyr llwybr rhosyn yn yr ardd i ddilyn ac wedi nodi'n goch ar y map.
Mae parthau gollwng a chodi ar waelod y maes parcio gerllaw Ystafell De'r Pafiliwn.
Mae yna tua 20 o leoedd parcio ar gyfer pobl anabl, 100 llath o fynedfa’r ardd. Mae angen i ddefnyddwyr cymhorthion symudedd e.e. sgwteri fod yn ymwybodol bod natur y safle yn golygu bod rhywfaint o'r parcio ar lethr. Gall cerbydau sydd â theclyn codi neu ramp gael anawsterau wrth lwytho neu ddadlwytho cymhorthion symudedd. Os cewch unrhyw drafferth, defnyddiwch y mannau codi a gollwng ar waelod y maes parcio.
Mae toiledau hygyrch wedi’u lleoli yn y prif floc toiledau, sy’n gyfagos i ystafell de’r pafiliwn, yn y ganolfan arddio ac ym mloc toiledau’r Glyn (Dell).
Maes parcio - what3words: ///gweryru.rhybuddiodd.elusengar
Gardd Bodnant, Tal-y-Cafn, ger Bae Colwyn, Conwy, LL28 5RE
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.
Gydag 80 erw o hanes garddwriaethol i’w archwilio a’i fwynhau, Gardd Bodnant yw’r lle perffaith i ddod â’ch grŵp, waeth beth fo’r tymor. Dysgwch fwy i gynllunio ymweliad eich grŵp i Gardd Bodnant.
Gallwn eich croesawu i dynnu lluniau priodasol. Am ragor o fanylion cysylltwch â bodnantgarden@nationaltrust.org.uk neu 01492 650460.
80 erw yn cynnwys gerddi ffurfiol, llennyrch llawn llwyni, dolydd a choedwigoedd, glynnoedd a gerddi dŵr. Cartref i gasgliadau planhigion hanesyddol.
Gardd Ddwyreiniol Fictoraidd, gyda Gardd Gylch, Parterre a Bwa Tresi Aur enwog. Terasau Eidalaidd Edwardaidd o welyau rhosod, pyllau dŵr a gardd-ystafelloedd pergola.
Yr Hen Barc, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Sioraidd, a Dôl y Ffwrnais sy’n gorwedd ar ochr bryn yn edrych dros ardd yr afon.
Y Glyn, Glyn yr Ywen a’r Pen Pellaf: Llwybrau coetir drwy goed brodorol ac egsotig, gan gynnwys magnolia a rhododendron, a hen Goed Campus prin.
Y Felin Binnau, adeilad rhestredig Gradd II o’r 18fed ganrif ar Deras y Gamlas; yr Hen Felin Sioraidd yn y Glyn, a’r Gerdd, beddrod Fictoraidd yn y Llennyrch.
Ystafell de’r Pafiliwn a’r ystafell de Magnolia, gyda seddi dan do ac awyr agored. Caban y Glyn yn gweini cludfwyd gyda seddi awyr agored.
Canolfan arddio, ger y fynedfa i’r ardd arbennig, yn gwerthu rhoddion, cofroddion a phlanhigion arbenigol.
Parc chwarae yn y maes parcio ac ardal chwarae naturiol yn y Pen Pellaf gyda drysfa helyg ac ardal adeiladu den.
Yn dod dros yr haf! Helpwch Wallace & Gromit ar y llwybr Realiti Estynedig anhygoel hwn yn Ardd Bodnant! Cewch ddilyn llwybr, chwarae gemau a darganfod fwy am y llwybr Realiti Estynedig anhygoel gan Aardman yma'n Ardd Bodnant.
Mwynhewch arddangosiad trawiadol o ddelweddau sydd wedi’u dethol ar gyfer cystadleuaeth Ffotograffydd Gardd Ryngwladol y Flwyddyn, yn yr awyr agored yn yr ardd ym Modnant.
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant. Mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau planhigion o bob rhan o’r byd.
Gydag 80 acer i’w harchwilio, mae digonedd o le i deuluoedd fwynhau ychydig o amser tawel gyda’i gilydd yng Ngardd Bodnant, Conwy, gogledd Cymru. Treuliwch ychydig oriau yn mwynhau’r prydferthwch a’r natur mae gwahanol rannau o’r ardd yn eu cynnig drwy gydol y flwyddyn.
Mwynhewch y daith hon ar ochr bryn – mae’n ymarfer corff da gyda golygfeydd panoramig i wneud i chi deimlo ar ben y byd.
Crwydrwch trwy fyd rhyfeddol o liw, gwead ac aroglau ar daith trwy Ardd y Gaeaf. Taith gylchol hawdd addas i’r teulu cyfan ei mwynhau.
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.
Arhoswch yn yr adeilad rhestredig Gradd II hwn, a’r wisteria yn orchudd drosto. Bydd yr ardd ysblennydd a’r hanes diddorol ar stepen drws Conwy yn gwneud i chi deimlo’ch bod yn camu’n ôl mewn amser.
Mewn 200 erw o barcdir coediog, gyda golygfeydd at Eryri, mae’r gwesty a’r sba yma o’r 17eg ganrif yn lle delfrydol am seibiant bach rhamantus.
Yn swatio ar dir Gwesty Bodysgallen, gyda golygfeydd o Gastell Conwy a mynyddoedd Eryri, mae’r bythynnod hyn yn cynnig encil Cymreig heddychlon.
Yn Ardd Bodnant dros yr haf! Helpwch Wallace & Gromit ar y llwybr Realiti Estynedig anhygoel hwn! | At Bodnant Garden this summer! Help Wallace & Gromit in this cracking new Augmented Reality trail!
Dathliad 5 mlynedd o ‘Gelf Gogledd Cymru’ gydag arddangosfa o’u gwaith ym mwa’r tresi aur. | A celebration of five years of 'Art North Wales' with an exhibition of their work under the Laburnum Arch.
Gyda safleoedd eraill yng Nghymru, y bydd Gardd Bodnant yn cynnig mynediad am ddim am un penwythnos ym mis Medi / Together with other sites across Wales, Bodnant Garden is opening the gates for free for one weekend in September.
Mwynhewch Arddangosfa Ffotograffydd Gardd Rhyngwladol y Flwyddyn yn Ardd Bodnant | Enjoy the International Garden Photographer of the Year Exhibition at Bodnant Garden
Mwynhewch fynediad arbennig i’r ardd wrth iddi ddeffro, yr amser perffaith ar gyfer ffotograffau ‘awr las’ a thoriad gwawr | Enjoy exclusive access to the garden as it wakes up, the perfect time for 'blue hour' and sunrise photos.
Ymunwch gyda’r artist ffotograffaidd Eleri Griffiths er mwyn creu eich argraffiad cyanotype botanegol eich hun. / Join photographic artist Eleri Griffiths to make your very own botanical cyanotype print.
Ymunwch gyda’r artist lleol Paul Pigram i greu eich darlun pastel eich hun wedi’i ysbrydoli gan yr ardd / Join local artist Paul Pigram to create your own pastel painting inspired by the garden
Ymunwch gyda’r artist lleol Andrew Jenkin er mwyn creu dyfrlliw wedi’i ysbrydoli gan yr ardd / Join local artist Andrew Jenkin to create a watercolour inspired by the garden
Gyda chorneli clòs, lawntiau eang, terasau mawreddog a choetir gwyrddion, mae sawl gardd yn un ym Modnant. Crëwyd yr ardd dros 150 mlynedd yn ôl, gyda phlanhigion yn cael eu casglu a'u cludo i Brydain o bellafoedd a gweledigaeth anhygoel cenedlaethau o deulu'r McLaren a'r prif arddwyr Puddle, mae'r hafan hon o harddwch a phethau prin gyda mynyddoedd y Carneddau, Eryri, yn gefnlen, yn llawenydd i'r synhwyrau. Gyda lliw drwy gydol flwyddyn, gall yr ardd fod yn beth bynnag yr ydych am iddi fod, boed hi'n llawn bwrlwm neu'n hafan o lonyddwch ac ymlacio, mae hwn yn lle arbennig i bob oed.
Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.
Gwaith cenedlaethau yw’r ardd ym Modnant, gan ddechrau gyda’r teulu Pochin ar ôl iddyn nhw symud o Fanceinion. Dysgwch am y bobl a wnaeth wneud Bodnant yr hyn welwn ni heddiw.
Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.
Ydych chi erioed wedi meddwl faint o waith y mae’n ei olygu i gadw 80 erw Gardd Bodnant i edrych ar eu gorau? Dysgwch sut mae’r tîm yn gofalu am yr ardd, sy’n gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed sy’n Bencampwyr.
O Wasanaethau Ymwelwyr i Wirfoddolwyr Gardd medrus, mae’r cyfan yn hanfodol i’r tîm. Ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn gwirfoddolwyr newydd yng Ngardd Bodnant.
Bydd ardal feithrinfa newydd hollbwysig yng Ngardd Bodnant Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng Nghonwy, Gogledd Cymru, yn helpu i ddiogelu casgliad byw'r ardd fyd-enwog am genedlaethau i ddod.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.