Y Vile, yn llawn lliw a bywyd gwyllt unwaith eto

Ceidwad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Mark Hipkin, yn astudio’r blodau haul yn y Vile, Rhosili

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae’r Vile wedi ffynnu drwy ein defnydd o ddulliau ffermio sy’n ystyriol o fywyd gwyllt, megis plannu cnydau blodau ochr yn ochr â chnydau âr a dolydd blodau gwyllt mwy traddodiadol.

Mae’r mesurau hyn wedi helpu i wella bioamrywiaeth a chreu ffynonellau o fwyd i wenyn, pili-palod a heidiau o adar sy’n treulio’r gaeaf yma. 

Fel rhan o brosiect adfer ehangach, mae’r dull ffermio ‘cae lleiniau’ wedi’i ailgyflwyno ar draws 45 hectar o dir amaeth yn y Vile yn Rhosili - tirwedd yr ydym wedi’i hadfer drwy ailblannu ei gwreiddiau canoloesol o’r 12fed ganrif. 

Mae’r ddau haf diwethaf wedi bod yn llwyddiant ysgubol, o bersbectif bywyd gwyllt ac ymwelwyr. Tua diwedd mis Gorffennaf roedd hanner miliwn o flodau haul yn fôr o felyn ar hyd arfordir eiconig Rhosili, ochr yn ochr â chaeau o ddolydd gwellt blodeuog, pabïau a bysedd y blaidd. 

Paradwys y peilliwr

Yn genedlaethol, mae niferoedd peillwyr yn dirywio’n sylweddol. Yn Rhosili, mae cynnydd dramatig yn gwyrdroi’r duedd hon. Rydym yn tybio bod chwarter miliwn o wenyn yn y caeau blodau haul erbyn hyn. Ddwy flynedd yn ôl, roedd tua dwy fil. 

Mae newid ein ffordd o ffermio a rhoi natur wrth galon yr hyn a wnawn wedi gwella bioamrywiaeth yr ardal hon yn ddramatig. 

Beth sy’n digwydd a beth sydd i’w weld yn y Vile yn Rhosili?

Bob blwyddyn fe welwch gnydau’n ffynnu yn y Vile gan greu gwledd i wenyn a phili-palod a chynnig maeth dros y gaeaf i heidiau o adar fel y llinos, yr ehedydd a’r nico.

Rydym yn disgwyl i’r blodau haul fod ar eu gorau tua diwedd mis Gorffennaf, dechrau mis Awst. Dyma’r amser hefyd i fwynhau’r cnydau o fysedd y blaidd, had llin a phabïau. 

O’r gwanwyn hyd at ddiwedd Medi, bydd ein dolydd gwellt blodeuog cyfoethog yn llawn lliw, gan gynnwys y llygad-llo mawr, y bengaled a’r gribell felen. Mae dolydd gwellt traddodiadol fel yr un yma yn lleoedd gwych i adar fel yr ehedydd.

Ym mis Medi rydym yn cynaeafu’r cnydau, gan sicrhau ein bod yn gadael digon i fwydo’r heidiau o adar sy’n treulio’r gaeaf yma. 

Bydd ein perllan newydd, gyda mathau treftadaeth o afalau bach surion, yn wledd i fywyd gwyllt ar ddechrau’r hydref.  

Dros y gaeaf byddwn yn parhau i adfer y dirwedd, gan ganolbwyntio ar y ffiniau hanesyddol, plannu a gosod cloddiau ac ailadeiladu’r waliau carreg sych. Mae’r holl bethau hyn yn rhoi lle i fywyd gwyllt fel y wenci, y carlwm ac adar tir amaeth guddio a bwydo. 

Gyda’r gwanwyn, byddwn yn plannu mwy o blanhigion lafant. Mae’n gnwd sy’n fwyd i bryfed yn ystod yr haf a’r hydref ac yn lle perffaith i eistedd, ymlacio a mwynhau’r olygfa.