Skip to content

Tŷ Tredegar

Cymru

Mae Tŷ Tredegar a’i erddi a’i barcdir amgylchynol, lleoliad sydd wedi’i siapio gan y gymuned leol, yn sefyll yn falch wrth galon treftadaeth Casnewydd.

Tredegar House, Pencarn Way, Newport, NP10 8YW

Tŷ gyda llyn o’i flaen a choed hydrefol i’r dde

Cynllunio eich ymweliad

Nadolig yn Nhŷ Tredegar 

Dadorchuddiwch 500 mlynedd o hanes y Nadolig hwn yn Nhŷ Tredegar, gyda goleuadau godidog, awyrgylch hudolus a thros 80 o goed wedi’u haddurno. O 6 Rhagfyr, bydd cannoedd o oleuadau Nadoligaidd i’w gweld ar hyd ein gerddi, ac addurniadau hyfryd yn y tŷ. Dewch draw am amser gwerth chweil yn archwilio hanes y Nadolig yn Nhŷ Tredegar.

Coeden Nadolig

Ymweliadau grŵp â Thŷ Tredegar 

Rydym yn croesawu grwpiau sydd wedi trefnu ymlaen llaw yn Nhŷ Tredegar. Gyda phlasty brics coch trawiadol a 90 erw o erddi a pharcdir yn ei amgylchynu, mae digon i’w ddarganfod.

Teulu’n cerdded tuag at y camera ar hyd llwybr gyda choed hydrefol y naill ochr

Dod â'ch ci i Dŷ Tredegar 

Mae gan Dŷ Tredegar sgôr o dair pawen. Mae digon o gyfleoedd i lamu, neidio a snwffian yn Nhŷ Tredegar. Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ymweld gyda’ch ci.

Child walking their dog in autumn at Tredegar House, Newport, Wales

Map Tŷ Tredegar 

Cymerwch olwg ar y map o Dŷ Tredegar i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.

Two visitors in raincoats exploring the autumnal garden at Hinton Ampner, Hampshire

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.