Croeso i Goed a Gweirglodd y Ffwrnais

Dame Helen Ghosh, former Director-General of the National Trust, and naturalist Iolo Williams at the opening of Furnace Wood and Meadow, Bodnant Garden

Mae gwahoddiad arbennig i chi ddarganfod ardal newydd o Ardd Bodnant y Pasg hwn – Coed a Gweirglodd y Ffwrnais.

Y darlledwr a’r naturiaethwr Iolo Williams oedd ein gwestai arbennig ar 11 Ebrill ar achlysur dadorchuddio yr 20 erw o dir nad yw’r cyhoedd wedi eu gweld o’r blaen, sef coetir o goed brodorol ac egsotic a gweirglodd sy’n llawn blodau gwyllt. 

Yn dilyn y seremoni agoriadol cafwyd prynhawn o deithiau tywys a gweithgareddau fel plannu eirlysiau a chrefftau coed.

Mae Bryn y Ffwrnais ar lan orllewinol afon Hiraethlyn yng ngardd y dyffryn. Roedd ochr y bryn yn gartref i nifer o goed brodorol ar un adeg ond cafodd yr ardal ei gweddnewid o’r 1870au ymlaen gan berchennog Gardd Bodnant, Henry Pochin, a’i ferch Laura McLaren, a blannodd y conifferau o Ogledd America. Aeth mab Laura, Henry, yn ei flaen i ychwanegu nifer o rhododendrons a magnolias Asiadd ar ddechrau’r 1900au.

Mae Ffwrnais ar gyrion yr ystad wedi bod yn ardal breifat erioed ond mae garddwyr wedi bod yn ei hadnewyddu ers degawdau er mwyn ei hagor i’r cyhoedd am y tro cyntaf. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys adfer Llwybr Penjerrick, rhodfa o rododendrons prin a blannwyd yn wreiddiol gan Henry McLaren, Ail Arglwydd Aberconwy, o’r 1920au.

Amrywiaeth gyfoethog

Yn ogystal â bod yn gartref i gasgliad pwysig a hanesyddol o fagnolias, rhododendrons a phlanhigion Asiaidd eraill, mae Coed Ffwrnais yn cynnnig golygfeydd panoramig i ymwelwyr ar draws gweddill yr ardd, gan gynnwys golygfa uchel o’r terasau Eidalaidd ar ochr arall yr afon.

Bydd garddwyr wrth eu bodd â phlanhigion, golygfeydd a thawelwch Coed Ffwrnais, ond mae Gweirglodd Ffwrnais hefyd yn gyfoeth o fywyd gwyllt. Mae ein garddwyr yn rheoli’r glaswelltir hwn mewn ffordd draddodiadol er mwyn rhoi hwb i’r amrywiaeth gyfoethog o rywogaethau sydd wedi’u canfod yno.

Dywed y Prif Arddwr, John Rippin: “Mae Ffwrnais yn drysor cudd ac mae’r agoriad yn uchafbwynt yn hanes 140 mlynedd yr ardd. Yr ardal hon o’r ardd yw’r darn mawr olaf o jig-sô Bodnant i gael ei osod yn ei le – ac mae 75  o’r 80 erw bellach ar agor i’r cyhoedd.”

Gan edrych ymlaen at eich gweld!