Skip to content
Datganiad i'r wasg

‘Coed dinosoriaid’ o Awstralia yn dechrau eu bywyd newydd yng Ngardd Bodnant

A woman in black weather proof clothes abseils down a green gorge, carrying a small pine sapling in a bright red backpack
National Trust gardener Alex Davies abseils down the steep banks of the Dell to plant the Wollemi pines at at Bodnant Gardens, Conwy | © National Trust Images/Iolo Penri

Mae Gardd Bodnant, gardd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng Ngogledd Cymru, yn ymuno â Forestry England i blannu coed pinwydd Wollemi sydd mewn perygl difrifol fel rhan o’r ‘meta-gasgliad’ byd-eang cyntaf i achub y rhywogaeth eiconig rhag difodiant a helpu gwarchod bioamrywiaeth coed gwyllt.

Cafodd mwy na 170 o goed Pinwydd Wollemi ifanc a dyfwyd gan Ardd Fotaneg Sydney eu cludo o Awstralia ac maent wedi cael gofal gwyliadwrus ym meithrinfa goed Forestry England yn Bedgebury. Plannwyd chwech yno ar 31 Hydref i ddod yn rhan o’r casgliad byw yn y Binwyddlan Genedlaethol, tra bod y coed sy’n weddill wedi’u dosbarthu i 28 o erddi botaneg ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop – gan gynnwys Gardd Bodnant.

Mae Pinwydd Wollemi wedi cael eu galw’n ‘goeden ddinosor’ oherwydd bod cofnodion ffosil yn dangos eu bod yn byw 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl ochr yn ochr â’r dinosoriaid. Tybiwyd eu bod wedi diflannu rhwng 70 a 90 miliwn o flynyddoedd yn ôl nes iddynt gael eu darganfod ar hap ym 1994, pan ddarganfuwyd grŵp bach o goed byw gan archwiliwr a botanegydd o Awstralia, David Noble, yn tyfu mewn ceunant anghysbell ym Mharc Cenedlaethol Wollemi yn Ne Cymru Newydd.

Ystyrir y foment hon yn un o ddarganfyddiadau botanegol mwyaf ein hoes. Mae’r rhywogaeth coed bellach wedi’i dosbarthu fel un sydd mewn perygl difrifol ar restr goch yr IUCN, sy’n ddangosydd pwysig o fioamrywiaeth y byd sy’n nodi’r risgiau o ddifodiant i rywogaethau planhigion ac anifeiliaid.

Ers ei ddarganfod, bu ymdrech ar y cyd i yswirio'r rhywogaeth rhag colli'r coed gwyllt sy'n weddill, gyda llai na 100 ar ôl yn tyfu mewn ceunant 150 cilomedr o Sydney. Mae’r coed gwyllt hyn yn fwyfwy agored i fygythiadau afiechydon a thanau gwyllt gan osgoi cael eu dinistrio gan danau gwyllt o drwch blewyn yn 2019-2020 a losgodd mwy na 10 miliwn hectar o dir yn nwyrain Awstralia.

Mae datblygiadau diweddar mewn technegau genetig wedi galluogi arbenigwyr gwyddor planhigion a chadwraeth Awstralia i adnabod a bridio pinwydd Wollemi sy'n amrywio'n enetig. Am y tro cyntaf, mae'r casgliadau genetig amrywiol hyn o lasbrennau ar gael i erddi botaneg ledled y byd.

Mae lleoliadau wedi'u dewis gydag amodau sy'n fwyaf addas i'r coed oroesi'r newidiadau hinsawdd sydd o'u blaenau. Gyda'i gilydd byddant yn creu meta-gasgliad, casgliad botanegol a rennir gan sefydliadau ar wahân ond sy'n derbyn gofal ar y cyd i ymchwilio a gwarchod y rhywogaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae tyfu coed ledled y byd yn y modd hwn yn cadw'r ystod ehangaf o amrywiaeth genetig a geir yn y boblogaeth wyllt a'r nod yw diogelu pinwydd Wollemi rhag diflannu.

Mae Ned Lomax, Prif Arddwr Gardd Bodnant yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect. “Mae Gardd Bodnant yn adnabyddus am gasglu a thrin planhigion prin o bedwar ban byd ac mae’n enwog, ymhlith pethau eraill, am ei chasgliad helaeth o gonifferau sy’n cynnwys nifer o goed arobryn y Deyrnas Unedig a Chymru.”

“Oherwydd pwysau newid hinsawdd, datblygiad a datgoedwigo, mae llawer o’r coed hyn bellach mewn perygl yn y gwyllt ac felly mae ein planhigion, a dyfwyd yn wreiddiol ar gyfer effaith addurniadol, wedi dod yn hynod bwysig oherwydd eu gwerth cadwraethol.”

Mae chwarae rhan fach hyd yn oed yn y gwaith o ddiogelu rhywogaeth mor ddiddorol o gonifferau yn fraint i’r tîm yng Ngardd Bodnant. “Rydym yn falch iawn o barhau â’r traddodiad hwn a gallu chwarae ein rhan fach ni. Mae’r coed hyn yn tarddu o geunentydd cysgodol, llaith ac oer yn Ne Cymru Newydd, Awstralia a’n gobaith yw y bydd Gardd Bodnant yma yng Ngogledd Cymru, gyda’i hinsawdd debyg, yn gallu bod yn ail gartref Cymreig go iawn.”

Nid yw efelychu’r cynefin ceunant naturiol y mae Pinwydd Wollemi yn ei fwynhau yn y gwyllt yn syml mewn gardd. Gobeithir y bydd y lleoliadau plannu a ddewisir yn addas ar gyfer llwyddiant y coed eu hunain yn ogystal ag estheteg yr ardd restredig Gradd 1.

Nid oedd mynediad i'r safleoedd hyn yn hawdd ond yn ffodus mae tîm Gardd Bodnant wedi'u hyfforddi ac wedi arfer gweithio mewn amodau lletchwith. Ar ôl abseilio'n ofalus i lawr y llethrau peryglus, cerfiwyd tyllau plannu a gosodwyd y coed ifanc yn llwyddiannus.

Gan weithio mewn partneriaeth, nododd timau o Forestry England, Gerddi Botaneg Sydney, a Chadwraeth Gerddi Botaneg Rhyngwladol (BGCI) erddi botaneg gan gynnwys Gardd Bodnant yn nyffryn Conwy, lle bydd yr hinsawdd yn gweddu orau i’r Pinwydd Wollemi.

Cawsant gymorth gan ddata o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion byd-eang dan arweiniad Gerddi Botaneg Sydney ac asiantaeth wyddoniaeth genedlaethol Awstralia, CSIRO, a ofynnodd i bobl rannu eu gwybodaeth am Binwydd Wollemi sydd eisoes yn tyfu mewn gerddi a pharciau preifat ledled y byd.

Mae Pinwydd Wollemi wedi'u tyfu mewn gerddi a pharciau preifat ers 2005, er bod y coed hyn yn wahanol i'r coed sy'n ffurfio'r meta-gasgliad ac nid oes ganddynt eu hamrywiaeth genetig. Wrth i’r meta-gasgliad ymsefydlu, bydd y timau o Forestry England, Gerddi Botaneg Sydney, Cadwraeth Gerddi Botaneg Rhyngwladol a’r tîm garddio o Ardd Bodnant ei hun yn parhau i fonitro’r coed wrth iddynt dyfu ac aeddfedu.

Mae'r Pinwydd Wollemi yn rhan o raglen ehangach o waith cadwraeth planhigion a wneir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gan weithio mewn partneriaeth â Rhaglen Cadwraeth Conwydd Ryngwladol Gardd Fotaneg Caeredin, mae’r Ymddiriedolaeth wedi plannu dros 300 o goed conwydd sydd mewn perygl yn y gwyllt oherwydd ffactorau gan gynnwys diraddio cynefinoedd, torri anghyfreithlon, tân a newid hinsawdd.

Mae'r rhain yn cynnwys Cedrus libani (Cedrwydden Libanus), sydd bellach yn hysbys mewn dim mwy na 10 lleoliad yn Libanus, Syria a Thwrci; Torreya taxifolia (Torreya Fflorida) sydd mewn perygl difrifol, a amcangyfrifir i fod wedi gostwng o 98% dros y tair cenhedlaeth ddiwethaf; a Podocarpus salignus (podocarp helygddail), sy'n endemig i Chile, lle nad oes unrhyw gynefinoedd addas ar ôl yn y rhan fwyaf o ardaloedd.

Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn gweithio i warchod rhywogaethau Sorbus brodorol sydd dan fygythiad, gan gynnwys Sorbus cheddarensis prin, sy'n hysbys yng Ngheunant Cheddar, Gwlad yr Haf yn unig.

Mae Canolfan Cadwraeth Planhigion yr elusen yn Nyfnaint yn chwarae rhan bwysig, yn lluosogi planhigion fel y gellir eu dosbarthu’n ehangach a’u diogelu ar draws safleoedd gardd, parcdir a chefn gwlad.

Dywedodd Alison Crook, Curadur Casgliadau Planhigion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Mae gan y parciau a’r gerddi rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw hanes hir o gyflwyno rhywogaethau newydd o blanhigion ac rydyn ni wedi parhau i wneud hyn yn y degawdau diwethaf. Trwy’r math hwn o waith, rydym yn chwarae ein rhan i sicrhau dyfodol nid yn unig i fioamrywiaeth y Deyrnas Unedig, ond i fioamrywiaeth ledled y byd.”

Asaleas a rhododendrons yn eu blodau ym mis Mai yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru
Lle
Lle

Gardd Bodnant 

A world-famous garden home to National Collections and Champion Trees | Gardd fyd enwog yn gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed Campus

near Colwyn Bay, Conwy

Yn hollol agored heddiw
Rhododendrons pinc yn eu blodau yn y gwanwyn yng Ngardd Bodnant, Conwy
Erthygl
Erthygl

Casgliadau botanegol Gardd Bodnant 

Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.